Nos Iau ddiwethaf gwelwyd gŵr ifanc lleol yn serennu ar un o brif raglenni Sianel Pedwar. Rhys Lewis o Lanbed oedd prif ffocws rhaglen gyntaf cyfres newydd “First Dates” sydd ar gael i’w hail wylio ar y we.
Ffilmiwyd y rhaglen yn Llundain dwy flynedd yn ôl, ac ynddi mae Rhys yn cwrdd â Nikita, sef gweithwraig Harddwch o Abertawe.
Dywedodd Rhys wrth Clonc360 “Edrychodd y producers etc ar ôl fi yn spot on, so on i’n teimlo’n eitha teidi a relaxed yn y pre filmings a wedyn nerfus trwy’r dêt i fod yn onest. Ond y mwya yfes i y well teimles i!”
Llwyddodd Rhys i fagu perthynas dda ar sgrîn â Nikita, er iddo ddangos tatŵ ar ran amheus o’i gorff. Cyfaddefodd nad oedd wedi mynd ar lawer o ddêts a’i fod yn dueddol o ddweud pethau digon dadleuol ar adegau.
Er ei fod yn wreiddiol o bentref Cribyn, rhoddodd Lanbed ar y map a chyfeiriodd ar y rhaglen ei fod yn fecanig yn Llanybydder. Doedd Nikita ddim yn deall ble’r oedd hynny.
Ychwanegodd Rhys “Pan odd y bois a fi’n byw da’n gilydd yn Llambed un nosweth jyst deceidon ni i seino fi lan am lwyth o raglenni. A mishoedd ar ôl hynny delodd First Dates nôl ata i ar ddydd Mercher. Erbyn dydd Sadwrn on i’n trafeili i Lunden!”
Bu Rhys yn ateb cwestiynau Papur Bro Clonc nôl ym mis Mawrth 2013 ar gyfer colofn “Cadwyn Cyfrinachau”. Dyma i chi flâs o rai o’i atebion:
Y peth mwyaf rhamantus a wnaeth rhywun i ti erioed? Sneb wedi gwneud llawer rhamantus i fi achos maen nhw’n gwybod gewn nhw dim byd nôl.
Y peth gorau am yr ardal hon? Nosweithiau mas gyda’r bois.
Y peth gwaethaf am yr ardal hon? Dim hanner digon o dalent.
Sut fyddet ti’n gwario £10,000 mewn awr?
Hala’r haf mas yn Ibiza gyda’r bois i gyd, all expenses paid.Beth fyddet yn ei wneud pe na baet yn gwneud y gwaith presennol? Physio i dîm pêl-foli menywod Sweden.
Mae Rhys yn gweithio i Harry James yn Llanybydder erbyn hyn. Ni ddatblygodd ei berthynas â Nikita er i’r rhaglen roi’r argraff bod dyfodol iddynt.
Mae Rhys am ddatgan ei fod dal yn sengl. Efallai y daw’r erthygl hon ar wefan Clonc360 i’r adwy. Beth chi’n feddwl ferched?