Diolch am dy erthygl hyfryd am ymdrech fy nhad, Dylan. Cadwch yn ddiogel bawb.
Wrth nodi ei ben-blwydd yn 91 ddoe llwyddodd Rhythwyn Evans o Silian i godi arian mawr tuag at Apêl Hywel Dda Covid-19 a gwelwyd justgiving y cwmni codi arian ar y we yn trydar yn Gymraeg.
Roedd Rhythwyn wedi ei ysbrydoli gan Gapten Tom Moore, a gosod her bersonol i gerdded o amgylch ei gartref 91 o weithiau mewn 1 diwrnod, er mwyn helpu curo’r epidemig Covid-19.
Roedd e am gefnogi ei fwrdd iechyd lleol, sef Hywel Dda, a hynny fel arwydd o ddiolch am waith arbennig y gweithwyr o fewn y maes. Mae’r arian yma yn mynd at Apêl Hywel Dda Covid-19, sy’n cael ei drefnu gan Elusennau Iechyd Hywel Dda.
Erbyn hyn mae cyfanswm yr arian a godwyd ar justgiving dros £28,000 sy’n swm anferthol. Mae Rhythwyn, Gwyneth a theulu Tanygraig yn uchel iawn eu parch yn y gymuned a wastad yn gefnogol i bopeth yn yr ardal. Gwelir ar wefan justgiving felly, bod y gymuned gyfan tu ôl i’r fenter hon ac felly’n awyddus iawn i ad-dalu’r gefnogaeth.
Ond gwelir bod cymaint o bobl wedi cyfrannu arian yn anhysbys hefyd oherwydd bod yr achos mor deilwng yn y cyfnod ansicr hwn a bod llawer o bobl yn dymuno cefnogi gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd sy’n gwneud gwaith mor hanfodol.
Yn ychwanegol i hyn bore ma, gwelwyd neges trydar gan justgiving yn Gymraeg am y tro cyntaf yn dweud “Pen-blwydd hapus yn 91 Rhythwyn! Mae Cymru gyfan y tu ôl i chi!“
Bydd pob ceiniog yn cael ei wario ar gefnogi lles staff a gwrifoddolwyr yr NHS sy’n gofalu am gleifion COVID-19. Felly, os ydych yn dymuno cefnogi’r achos teilwng hwn, a hynny mewn adeg o wir angen, mae croeso i chi wneud hynny drwy’r dudalen Just Giving.