Sialens Adfent Actifiti i blant a theuluoedd!

Mewn cydweithrediad â Phrosiect Bwyd Llambed

gan Lleucu Ifans

Ma hi bron yn Ddolig! Gyda leni wedi bo’n flwyddyn mor anodd i nifer, ma Actifiti’n falch iawn i gyhoeddi ein Sialens Adfent, mewn cydweithrediad â’r Prosiect Bwyd yn Llambed.

Mae’r Prosiect Bwyd yn darparu bwyd a nwyddau hanfodol arall i bobl a theuluoedd yn yr ardal, ac felly rydym yn falch iawn i gefnogi.

Bydd grŵp Facebook caeedig i’r sialens, gyda 1 dasg y dydd i’r plant a’u teuluoedd tan y 24/12/20. Bydd nifer wahanol o sialensiau, gyda’r cyfan yn groffen mewn Gemau Olympaidd Nadolig!  Mae croeso i unrhyw un ymuno fel unigolion neu grŵp, gallwch hefyd rannu lluniau a fideos ar y grŵp.

Er mwyn codi arian i’r prosiect, gofynnir yn garedig am dâl i ddod yn aelod o’r grŵp drwy PayPal. Argymhellir £5 y plentyn, ond croeso i chi anfon neges i drafod hyn yn bellach.

I fod yn glir, nid yw’r arian yma i Actifiti, fe fydd yn cael ei roi i’r Prosiect Bwyd yn ei gyfanrwydd. Rhywbeth bach i gael y plant i symud a chefnogi’r ardal – gobeithio welwn ni chi na!