Streic y Glowyr – a Llambed

1984 – cyfnod cythryblus yng Nghymru – cwotas llaeth a streic y glöwyr a Thatcher! Dyma hanes o greu cyswllt, ei golli a’i ddarganfod eto.

Heledd ap Gwynfor
gan Heledd ap Gwynfor

Mam, y ddwy chwaer a merch o Frynaman.

Beth yw eich atgofion chi o’r 1980au?

Ifanc iawn oeddwn i a’m brawd, ac mae fy atgofion i yn cynnwys symud tŷ yn rhy aml, ac wedyn gorfod symud ysgol, protestiadau dirifedi, Siwpyrted a streic y glöwyr.

Fe chwalodd y streic deuluoedd, cyfeillgarwch a chymunedau yng nghymoedd y de ac mae sgil effeithiau polisïau llywodraeth Doriaidd y dydd o dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher, yn parhau i adael creithiau hyd heddiw.

Roedd nifer o deuluoedd gwledig / gorllewin Cymru yn helpu’r streicwyr drwy wahodd eu plant i aros â nhw am gyfnod o amser. Golyga hyn dawelwch meddwl i’r rhieni yn y sicrwydd bod eu plant yn cael y teimlad o fod ar ‘wyliau’ a’u bod hefyd yn cael bwyd – gan gofio wrth gwrs, nad oedd streicwyr yn derbyn ceiniog tra ar streic.

Daeth dwy o ferched i aros â’m teulu i am wythnos pan oeddwn yn byw ar Heol y Bryn yn Llambed. Roedd y ddwy ohonynt yn chwiorydd o Langeinor ger Pen y Bont ar Ogwr. Roeddynt yn 12 a 13 oed, a’r cof pennaf sydd gen i ohonynt a minnau ond yn 7 oed, oedd eu bod yn siarad Saesneg!

Wythnos yn unig bu’r chwiorydd yn aros gyda ni, a collwyd pob cyswllt wedi iddynt ddychwelyd i’w cartref. Ond mae’r cyfryngau cymdeithasol heddiw yn golygu nad oes neb ym mhell o’i gilydd mewn gwirionedd, ac wedi i fy mrawd, Mabon, rhoi cais ar ei dudalen Facebook i’w canfod nhw, dyma ddod nôl i gyswllt â’r ddwy chwaer sydd yn parhau i fyw yn eu hardal enedigol.

Mae Mabon wedi sgwrsio gyda nhw, ac er mai wythnos yn unig bu’r ddwy aros gyda ni yn Llambed, bu’r cyfnod byr hwn adael dylanwad arnyn’ nhw gan mai dewis addysg Gymraeg wnaeth y ddwy i’w plant!