“Mae stwff garddio wedi mynd yn mental” – sut mae busnesau Llanbed yn ymdopi?

Siopau’n prysuro a llefydd bwyta’n tawelu, a busnesau bach yn addasu er mwyn cadw’r drysau’n agored.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Arwydd am brydau Sul y Mamau tu fas i’r Llew Du – ond tipyn llai nag arfer wedi cadw ford.

Siopau’n prysuro a llefydd bwyta’n tawelu ond neb wedi cau – eto – dyna’r argraff gyffredinol ar stryd fawr Llanbed ar hyn o bryd.

Mae’r lluniau o silffoedd gwag yr archfarchnadoedd wedi dod yn bethau cyffredin, ond y busnesau bach oedd yn cael y sylw gan golwg360 ddoe.

Yn dilyn ysfa pobol i fynd mas i brynu mwy na’r arfer o’r nwyddau hanfodol – bwyd a moddion – a’r prynu gwyllt ar bapur tŷ bach, mae pobol wedi dechrau troi fwyfwy at fusnesau bach y dre i lenwi eu cypyrddau ac i brynu pethau i’w cadw’n brysur.

Bwyd a mwy yn gwerthu

Roedd popty Y Becws wedi bod yn brysur iawn ac roedd y silffoedd sy’n arfer dal bara ddoe yn wag. Cael trafferth ymdopi â’r haid o gwsmeriaid newydd sbon oedd stori Jones y cigydd, ac mae Adrian y fferyllydd am agor ei siop deuluol am gyfnod ar ddyddiau Sul i ymateb i’r galw.

Ond mae’n amlwg bod pobol wedi bod yn cynllunio mlaen am fwy na’u bwyd a’u moddion.

Yn ôl Carys yn siop D L Williams, “mae stwff garddio wedi mynd yn mental” dros y diwrnodau diwethaf, wrth i bobol fynd i’r siop bach-o-bob-peth i brynu pethau i’w gadw’n brysur yn ystod y cyfnod hir o aros adre allai ein hwynebu. Roedd eitemau garddio a phaent wedi hedfan mas o’r silffoedd.

“Does dim angen help ar Amazon”

Mae Sandra Jervis, perchennog y Creative Cove, yn gobeithio gweld ymateb tebyg, ac yn annog pobol i fynd yno i brynu eu nwyddau i gadw’n brysur, yn hytrach na chefnogi’r corfforaethau mawr fel Amazon.

Ma hi hyd yn oed wedi rhannu syniadau ar dudalen Facebook y siop i ddangos pa bethau creadigol gall pobol eu gwneud gyda’r holl roliau papur tŷ bach gwag yna!

Roedd y darlun yn fwy tywyll yn nhafarn y Llew Du. Ers i Brif Weinidog Prydain gyhoeddi na ddylsai pobol fynd i dafarndai a bwytai roeddent wedi gweld cwymp mawr yn nifer y bobol oedd yn cael bwyd a diod yno.

Doedd y ffaith nad yw’r Llywodraeth wedi gorfodi busnesau fel hyn i gau yn helpu dim, yn ôl Deirdre y perchennog, ac roedd hi am fod yn gyfnod hynod o anodd iddyn nhw ar ôl gweithio mor galed i gael y lle’n ôl ar ei draed.

Addasu’n gyflym

Mae cwmnïau fel Lan Llofft wedi bod yn arloesi trwy werthu ar-lein a thrwy Facebook ers blynyddoedd, ac mae pobol wedi hen arfer ag archebu eu lluniau a’u halbymau trwy wefan Y Stiwdio Brint.

Ond roedd ambell gwmni wedi dechrau meddwl am addasu’r ffordd maen nhw’n gweithio:

  • Siop ddillad Duet yn ystyried dechrau gwasanaeth Clicio a Chasglu
  • Y Becws am ddechrau cludo bara i gwsmeriaid mewn angen
  • Y Stiwdio Brint a sawl man arall yn amlygu’r camau hylendid ychwanegol sydd ar waith yn y siop, i leddfu pryderon cwsmeriaid
  • Adrian y fferyllydd yn cynnig gwasanaeth cludo meddyginiaeth

Ydych chi’n fusnes yn ardal clonc360 ac yn cynnig gwasanaeth cludo neu rywbeth arbennig? Rhowch wbod yn y sylwadau isod er mwyn i ni gasglu’r cyfan ynghyd ?

Cefnogi’r busnesau bach

Y gri ym mhobman oedd annog pawb i gefnogi busnesau bach lleol.

Os ydyn am wynebu cyfnod hir o aros adre a mwy a mwy o bobol yn hunan-ynysu am wythnosau neu fisoedd, gallai ein busnesau bach lleol fynd i’r wal.

A gobaith y busnesau yw y byddwn oll yn parhau i’r cefnogi ar ôl y cyfnod anodd yma, er mwyn atgyfodi’r economi leol a chadw drysau’r busnesau sy’n cefnogi ein clybiau a’n mentrau lleol ar agor.

Oes gennych chi syniad am bethau i’w gwneud i helpu ein busnesau lleol?

Dyma ambell un:

  1. Ffonio’r busnesau sy’n cynnig gwasanaeth cludo i archebu ganddyn nhw
  2. Prynu talebau gyda chaffis a bwytai HEDDIW, i’w rhoi fel anrhegion
  3. Gadael adolygiadau da i’ch hoff fusnesau ar Facebook a TripAdvisor
  4. Creu rhestr o ba fusnesau byddech chi’n ffeili byw hebddynt
  5. Cofio am y busnesau bach chi’n eu defnyddio nawr, a pharhau i’w cefnogi trwy’r flwyddyn