Swyddogion Ysgol Bro Pedr 2020-2021

Cyflwyno Swyddogion newydd Ysgol Bro Pedr ar gyfer 2020-2021.

gan Elin Davies

Yn ddiweddar, apwyntiwyd tîm newydd o Brif Swyddogion yn Ysgol Bro Pedr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-2021.

Ar ôl llenwi ffurflen gais, cael eu dethol mewn etholiad ymysg disgyblion blwyddyn 12 ac athrawon, a chael cyfweliad gyda’r panel, penderfynwyd apwyntio Elan Jones, Hedd Dafydd a Gwion Payne yn Brif Swyddogion, a’u dirprwyon; Ryan Jones, Beca Roberts, Elin Williams, Hanna Davies a Ben Davies.

Mae’r tîm swyddogion yn cyfrannu llawer at fywyd yr ysgol trwy gydol y flwyddyn, gan gynrychioli’r ysgol mewn sawl digwyddiad mewnol ac allanol.

Un o Gwmann yw Elan a hi oedd un o gapteiniaid Tŷ Teifi yn Eisteddfod yr Ysgol eleni. Mae’n aelod o’r Pwyllgor Cymreictod a Chyngor Ieuenctid Ceredigion. Mae wrth ei bodd ar y llwyfan yn canu, llefaru, dawnsio a chanu’r piano. Mae’n ymfalchio yn y ffaith ei bod yn gyn aelod o gôr Only Kids Aloud ac ei bod yn ddigon ffodus i gael ei dewis i fynd i Batagonia gyda’r Urdd, felly gobeithio bydd Covid-19 yn ei galluogi i fynd ar y daith.

Cyn ddisgybl o Ysgol Henry Richard yw Hedd Dafydd. Cafodd ei ddewis yn un o is-gapteiniaid Tŷ Creuddyn eleni ac y mae wedi bod yn gapten ar ei lys yn Ysgol Henry Richard pan ym mlwyddyn 11. Mae Hedd yn aelod brwd o G.Ff.I. Llangeitho lle y mae wedi ennill llu o wobrau yn y gystadleuaeth siarad cyhoeddus yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Un peth sy’n bendant am Gwion yw bod chwaraeon yn ran mawr o’i fywyd, bu’n hoff o chwarae i dîm pêl droed Sêr Dewi ac mae e hefyd yn lysgennad chwaraeon gyda’r ysgol. Gwion oedd un o gapteiniad tŷ Creuddyn eleni, lle oedd yn cael cymdeithasu â llu o gwahanol bobl newydd, sef un o’i hoff bethau i wneud yn ei amser hamdden.

Symudodd Ryan Jones o Lantrisant ger Caerdydd i Geredigion llynedd. Yn ei hen ysgol, roedd yn aelod o Gyngor yr Ysgol, ac yn gwneud llawer gyda’r adran ddrama. Rhai o’i ddiddordebau yw ymchwilio i gwahanol bethau newydd a chadw’n heini. Ei nod mewn bywyd yw i fod yn feddyg mewn ysbyty.

Merch o Barc-y-rhos ger Cwmann yw Beca. Mae’n aelod o’r Pwyllgor Cymreictod ac o dîmau hoci a phêl-rhwyd yr ysgol. Yn ei hamser hamdden, mae wrth ei bodd yn gwneud pob math o chwaraeon, ac yn arbennig athletau. Mae Beca yn aelod o Glwb athletau Harriers Caerfyrddin ac wedi bod yn gapten ar dîm Gorllewin Cymru. Erbyn hyn, mae hi wedi ennill 7 fest dros Gymru, ac yn Hydref 2019, cafodd yr anrhydedd o gael ei dewis yn gapten ar dîm Athletau Ysgolion Cymru.

Un arall o Gwmann yw Elin Williams, ac mae wedi bod yn aelod o’r Cyngor Ysgol fel ysgrifenyddes cofnodion llynedd ac hefyd yn rhan o’r Cyngor Cymreictod. Rhai o’i hoff ddiddordebau yw coginio, chware pêl rhwyd a mynychu gigiau yn yr haf i wrando ar gerddoriaeth Gymraeg yn fyw, yn enwedig ar Fleur Dy Lys, gyda’i ffrindiau.

Drefach yw milltir sgwâr Hanna lle mae’n aelod o G.Ff.I. Llanwenog ac yn hoff o gystadlu gyda’r Urdd, lle mae hefyd yn un o’r llysgenhadon gwirfoddol. Roedd yn un o is-gapteiniaid tŷ Creuddyn eleni. Mae wrth ei bodd allan yn yr awyr iach yn marchogaeth ac yn gwneud llawer gyda ieuenctid Capel Brondeifi.

Cyn ddisgybl arall o Ysgol Henry Richard yw Ben sydd yn hoff o chwarae pêl-droed i’w dîm lleol sef Tregaron Turfs. Mae’n gweithio yn ei amser sbar yn siop cludfwyd Tseiniaidd Tregaron sef Dan i Sang ac wrth ei fodd yn gwneud ffrindiau newydd trwy gymryd rhan mewn llu o wahanol weithgareddau.

Llongyfarchiadau mawr i’r saith ohonynt, a dymuniadau gorau iddynt ar gyfer blwyddyn brysur a dymunol yn Ysgol Bro Pedr!