Mi fydd yn wythnos i’w chofio yn Ysgol Gynradd Eglwys Llanllwni yr wythnos hon am eu bod yn dathlu pen-blwydd yr ysgol yn 150 oed.
Ym 1870 yr adeiladwyd yr ysgol drwy nawdd y diweddar Barchedig Daniel Bowen, a adawodd ar ei ôl swm at godi ysgol eglwys yn Llanllwni. O 1875 ymlaen ceir cofnodion clir o’r ysgol a elwid y “Llanllwni National School” ac wedyn y “Llanllwni Church of England School”. Dyma oedd oes y gansen a’r ‘Welsh Not’. Drwy gyfrwng y Saesneg oedd yr addysg gyda phwyslais ar ddysgu o’r ysgrythur a’r Llyfr Gweddi Cyffredinol.
Er mae gwan oedd nifer y mynychwyr i ddechrau (ni allau pawb fforddio danfon eu plant i’r ysgol) wrth i bwysigrwydd addysg dyfu a mwy o ddeddfau addysg ddod i rym tyfodd yr ysgol yn gyflym, gyda dros gant o ddigyblion ym Mehefin 1892.
Er mor afreal y bu 2020, nid dyma’r tro cyntaf i’r ysgol gau oherwydd pandemig; o ddechrau Tachwedd 1918 hyd Ionawr 1919 cauwyd yr ysgol oherwydd yr ‘Influenza’. Bu’r ysgol felly ar gau adeg y cadoediad a ddiweddodd ymladd y Rhyfel Mawr.
Fel pob ardal daeth cysgod y rhyfel dros Lanllwni, cadwyd yn yr ysgol “Roll of Honour” yn enwi holl fechgyn y plwyf ac aelodau eraill yr eglwys a aeth i ymladd dros eu gwlad. Ni ddychwelodd deuddeg ohonynt.
Bu anghydfod ynghylch yr ysgol ym 1928 a threfnwyd streic gyda dros hanner y digyblion ddim yn mynychu. Pe bae angladdau lleol caewyd yr ysgol, ac yn enwedig ar gyfer angladdau disgyblion (nid oedd hyn yn anghyffredin mewn oes o ofal meddygol sylfaenol iawn). Rhanwyd yr ysgol yn ddwy a wedyn yn dair ystafell, gydag athro neu athrawes i bob un, ond nid oedd yr athrawon i gyd wedi derbyn cymhwyster i addysgu bryd hynny.
Pan yn 11 oed byddai rhai o’r disgyblion yn mynd ymlaen i’r Ysgol Uwchradd yn Llanbedr Pont Steffan neu Ysgol Ramadeg Llandysul, ond gan nad oedd addysg uwchradd yn orfodiaeth tan y 1940au byddai’r lleill yn derbyn ei holl addysg yn Ysgol Llanllwni.
Daeth cysgod rhyfel eto dros y fro ym 1939 ac yn fuan wedyn death estroniaid i’r ysgol, yr Ifaciwîs. Bu’r ysgol yn leoliad sawl cyngerdd “Welcome Home’’ adeg y rhyfel i aelodau’r Lluoedd Arfog ar ‘leave’, rhai ohonynt yn gweld Plwyf Llanllwni am y tro olaf. Defnyddiwyd yr iard ar gyfer ymarfer ‘drill’ yr ‘Home Guard’, ond mae’n debyg mae tipyn o ‘Dad’s Army’ oedd y rhain! Caeodd yr ysgol ar gyfer dathliadau diwrnod VE ar yr 8fed o Fai 1945.
Mae adeilad yr ysgol wedi bod yn dipyn mwy nag ysgol ar hyd y blynyddoedd, bu’n ganolfan gymunedol. O’r dechrau bu’n leoliad cyngherddau, ‘Penny Readings’ a gyrfaoedd chwist.
Cyfarfu yno ar hyd y blynyddoedd sawl mudiad o’r Urdd i’r ‘Scouts’ a bu’n gartref i’r gymdeithas henoed. Ym 1943 sefydlwyd Clwb Ffermwyr Ieuanc Llanllwni yn yr ysgol a byddai’n gartref iddynt am hanner can mlynedd.
Gan nad yw’r Eglwys mewn man canolog defnyddiwyd yr ysgol fel addoldy gyda gwasanaethau rheolaidd ac Ysgol Sul. Anodd credu erbyn heddi’ bod dwy Ysgol Sul eglwysig yn y plwy’ (ac Ysgol Sul yn y capel), yr Ysgol Sul dop yn yr Ysgol a’r Ysgol Sul waelod yn yr Eglwys, gyda chryn gystadleuaeth rhyngddynt!
Ym 1970 dathlwyd canmlwyddiant yr ysgol. Bu’r sêr canu pop, Tony ac Aloma yn yr ysgol adeg lansio ei sengl “Yr Hen Ysgol yn y Wlad”. Derbyniodd pob disgybl gopi o’r Testament Newydd i gofio’r achlysur a phinicl y dathlu ym mis Hydref oedd gwasanaeth, te parti a chyngerdd.
Gydag ansicrwydd wynebodd yr ysgol y mileniwm newydd, ond drwy gryn ymdrech cadwyd y drws ar agor. Ychwanegwyd ystafell ddosbarth arall gyda dyfodiad y caban i’r iard lle arferai’r merched chwarae; rhyddhawyd felly ystafell ddosbarth yn yr hen adeilad fel neuadd a symudodd yr Ysgol Feithrin yno. Er bod nifer y disgyblion ac athrawon wedi disgyn erbyn hynny dathlwyd pen-blwydd yr ysgol yn 140 drwy gydol 2010. Erbyn hyn rhenir prifathro gydag Ysgol Llanybydder.
Nid oedd yn bosib parahau gyda’r dathliadau yn y gymuned fel y cynlluniwyd eleni, ond bydd plant yr ysgol yn dysgu am hanes yr ysgol ac yn nodi’r achlysur (gan gadw at y cyfyngiadau Coronafeirws). Maent eisioes wedi cwblhau her 150 ac mi fyddant yn plannu 150 o fylbiau.
Disgwylir camerau teledu i iard yr ysgol a bydd y plant yn holi ambell gyn-ddisgybl am eu profiadau ac yn edrych ar hen luniau. Te parti bydd hi Nos Wener (4/12/20) ac i ddilyn gwasanaeth goleuni arbennig ar iard yr ysgol yng nghofal yr Hybarch Eileen Davies, Archddiacon Ceredigion a chyn-ddisgybl.
Gofynnir i’r gymuned ymuno o bell yn y dathlu am 7yh drwy gynnu’r canhwyllau arbennig mae’r ysgol wedi eu gwerthu. A hir parhaed fflam yr hen ysgol yn y wlad!