Aberaeron 20 Llambed 23

Cyffro i’r eiliadau olaf ym Mharc Drefach!

gan Geraint Thomas

Roedd y cyffro’n fyw hyd at chwiban olaf y dyfarnwr yn y gêm ‘dderby’ fawr ar Barc Drefach, Aberaeron ddydd Sadwrn. Yn wir, gyda’r sgôr yn 23-20 i’r ymwelwyr o Lambed, gyrrodd blaenwyr Aberaeron dros y llinell gais gyda’r cloc yn goch ond methwyd tirio’r bêl. Roedd y rhyddhad yn amlwg i chwaraewyr a chefnogwyr Llambed wrth iddynt fynd â record ddiguro Aberaeron ym Mharc Drefach, record oedd yn 3 thymor o hyd.

Cyn y gêm fawr roedd yr hyder yn uchel yn y ddwy garfan, er bod chwaraewyr allweddol ar goll i’r ddau dîm oherwydd anafiadau. Yr ymwelwyr o Lambed dechreuodd orau, gydag amddiffyn ffyrnig yn atal rhediadau blaenwyr cryf Aberaeron. Daeth pwyntiau cyntaf y gêm o esgid y maswr Osian Jones, a gafodd pnawn perffaith gyda’i droed, yn dilyn cic cosb yn y sgrum. Cadwodd Llambed y pwysau ymlaen, gan ledaenu’r bêl ar bob cyfle. Er eu bod yn wastraffus gyda’r bêl ar adegau, roeddent yn edrych yn beryglus, a daeth cais i’r asgellwr de ifanc, Jac Williams yn dilyn gwaith da gan Gethin Roberts ac Emyr Richards. Trosodd Osian Jones i adael y sgôr yn 10-0.

Cyn i Lambed allu teimlo’n gyfforddus, rhuthrodd y tîm cartref yn ôl trwy rym eu blaenwyr. Sgoriodd Aberaeron yn dilyn sgarmes symudol. Troswyd y cais i wneud y sgôr yn 10-7. Yn fuan wedyn, daeth cic gosb arall i Osian Jones i agor y bwlch i 6 phwynt. Newidiodd momentwm y gêm gyda cherdyn melyn i flaen asgellwr Llambed, Ryan Holmes. Fe fuodd Aberaeron yn ymosod yn gyson am weddill yr hanner. Roedd amddiffyn Llambed yn gryf a methodd bois Parc Drefach groesi’r gwyn galch a bu rhaid setlo am 3 phwynt. Collodd yr ymwelwyr 2 chwaraewr, Rhodri Williams a John Heath, yn ystod y cyfnod yma oherwydd anafiadau i’w pennau. Gadawodd hyn y sgôr ar yr hanner yn 13-10 i’r ymwelwyr.

Roedd yr ail hanner yn dynn fel yr un cyntaf gydag Aberaeron yn ymosod trwy’r blaenwyr a Llambed yn ymroi i gael y bêl i ddwylo’r cefnwyr chwimwth. Y tîm cartref llwyddodd yn gyntaf gan sgorio cais i fynd ar y blaen, 15-13 am y tro cyntaf yn y gêm. Tarodd Llambed yn ôl bron yn syth gyda chais yn y cornel i David Heath. Gwnaeth Osian Jones yn wych i drosi’r cais, Roedd hi nawr yn 20-15 i Lambed. Ymysg y llu o gefnogwyr, roedd y tensiwn yn amlwg gyda phob penderfyniad gan y dyfarnwr yn dod â bloedd enfawr gan naill ai’r cefnogwyr cartref neu’r rhai o Lambed.

Wrth i’r gêm fynd mewn i’r pymtheg munud ddiwethaf, sgoriodd y tîm cartref gais arall. Methwyd y trosiad i adael y sgôr yn gyfartal ar 20-20. Unwaith eto, taro yn ôl ar unwaith wnaeth Llambed, cic gosb arall oddi ar droed Osian Jones, i wthio eu trwynau ar y blaen. Fe wnaeth y tîm cartref ymosod yn ddiddiwedd yn y munudau olaf, tan yr eiliadau dramatig i gloi’r gêm.

Mae Llambed nawr yn ddiguro yn y gynghrair ac yn edrych ymlaen at groesawu San Clêr i Ffordd y Gogledd ddydd Sadwrn nesaf.