Adroddiad gêm cartref tîm Ieuenctid Llanbed dydd Sadwrn 23ain Hydref 

Tîm Ieuenctid Llanbed 3, Tîm Ieuenctid Sanclêr 32.

Llun: @stclears_YOUTH

Roedd gan Llanbed garfan fach o fechgyn oherwydd anafiadau a salwch, ond roedd 17 o fechgyn yn barod am yr her. Dechreuodd y gêm yn weddol gyfartal. Llanbed cafodd y cyfle cyntaf o fewn pum munud ble sgoriodd Dafydd Jones gic gosb i roi Llanbed 3-0 ar y blaen. Ond yn bwerus yn y tri munud nesaf daeth Sanclêr yn ôl gyda chais wedi’i drosi 3-7. Ar bymtheg munud newidiodd momentwm y gêm a chosbwyd bechgyn Llanbed, a alluogodd Sanclêr i fynd ym mhellach ar y blaen i 3-10 gyda chic gosb. Saith munud yn ddiweddarach o sgarmes symudol sicrhaodd Sanclêr eu ail gais, ond dim trosiad. Gwneud y sgôr ar hanner amser 3-15. Ar ddechrau’r ail hanner fe ymosododd y ddau dîm ac amddiffyn yn dda, ond manteisiodd Sanclêr eu cyfle ar ddeg munud a chael eu 3ydd cais, ond dim trosiad. Erbyn hyn roedd y sgôr yn 3-20 a gwelwyd bois Llanbed yn cael eu chosbu yn helaeth, a derbyn dau gerdyn melyn o fewn pum munud. Nawr gwelwyd 13 o fechgyn Llanbed yn ceisio amddiffyn yn erbyn 15 Sanclêr. O ganlyniad, fe dorrodd Sanclêr yn hawdd trwy’r amddiffyn a chael eu 4ydd cais a throsiad. Y sgôr oedd 3-27 pan ddaeth y tîm yn gyflawn nôl ar y cae. Serch hynny, ofer oedd yr ymdrechion achos gyda 5 muned i fynd sgoriodd Sanclêr eu 5ed cais o’r ornest, ond tarodd y trosiad y postyn. Sgôr terfynol 3-32.