Gwobr Heddlu Dyfed Powys i un o arweinwyr mwyaf canmoladwy’r sefydliad

Leyton Phillips yn derbyn Gwobr am ei allu i arwain ei dîm yn bwyllog mewn sefyllfaoedd heriol.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cafwyd cydnabyddiaeth leol ar bumed diwrnod o uchafbwyntiau Gwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys 2020 ar ddechrau’r wythnos, pan wobrwywyd rhingyll ymateb o Lanbed.

Mae’r Rhingyll Leyton Phillips wedi’i ddisgrifio gan ei gydweithwyr fel ‘un o’r rhingylliaid rheng flaen gorau yn Heddlu Dyfed-Powys’. Fe oedd enillydd Gwobr Arweinyddiaeth Heddlu Dyfed-Powys yn 2020 am ei allu i arwain ei dîm yn bwyllog mewn sefyllfaoedd heriol.

Dywed datganiad gan Heddlu Dyfed Powys:

Yn 2019, roedd menyw fregus wedi geni babi heb unrhyw gymorth meddygol tra roedd hi’n cuddio. Roedd hi yng nghwmni partner oedd yn ei chamdrin ac roedd y gwasanaethau cymdeithasol am ddod o hyd iddi. Bu’r teulu ar goll am sawl diwrnod a doedd dim sôn amdanynt.

Dechreuodd y Rhingyll Phillips ei ddyletswydd a rhoddodd ei dîm ymateb a’i swyddogion CID ar waith ar unwaith, gan fynd i chwilio am y fam a’r baban ar y strydoedd hefyd.

Bu’n rhagweithiol iawn ac oherwydd ei benderfyniadau strategol darganfyddwyd y teulu yn y pen draw.  Bu’n rhaid i’r Rhingyll Phillips redeg am gryn bellter, cyn arestio partner y fenyw yn y fan a’r lle.

Aethpwyd â’r baban i fan diogel i’w archwilio gan weithwyr meddygol proffesiynol.

Gwnaed llawer o waith tîm i ddatrys y digwyddiad, ond arweinyddiaeth ac ymdrech olaf y Rhingyll Phillips a dynnodd bopeth at ei gilydd gan sicrhau canlyniad cadarnhaol i bawb.

Dywedodd y Prif Arolygydd Thomas Sharville: “Mae brwdfrydedd y Rhingyll Phillips yn amlwg iawn yn ei rôl wrth ysbrydoli ei dîm.

“Mae’n arweinydd sy’n cyflawni’n gyson, ac yn sbarduno eraill i fynd y filltir ychwanegol honno hefyd.”

Wrth siarad ar ôl derbyn ei wobr Arweinyddiaeth, dywedodd y Rhingyll Phillips: “Ymunais â’r heddlu fel cwnstabl pan oeddwn i’n ddeunaw oed a nawr, 16 mlynedd yn ddiweddarach, rwy’n dal i ddeffro’n teimlo yr un mor gyffrous am ddod i’r gwaith ag yr oeddwn i bryd hynny.

“Does dim swydd arall debyg i’r swydd hon, ac rwy’n teimlo’n lwcus iawn i allu plismona mewn rhan mor hyfryd o’r wlad.”

Mae Gwobrau Blynyddol Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod y cyfraniadau rhagorol a wneir gan weithwyr yr heddlu, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r cyhoedd ym mhob maes plismona.

Llongyfarchiadau calonnog i’r Rhingyll Leyton Phillips am ei anrhydedd a diolch am ei ymrwymiad yn ei swydd dros sicrhau diogelwch yn y gymuned.