50 o benillion am Gynhaeaf Gwair yn ardal y Ram

Cân a gyhoeddwyd yn 1925 yn ymddangos yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc.

Eric ac Avril
gan Eric ac Avril

Yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc cyhoeddwyd 50 o hen benillion B T Lewis, Oranmore, Cwmann.  Ie 50 ohonyn nhw, sef cân i gynhaeaf gwair yn ardal y Ram yn 1925.

Mae Jenkins Cwmbedw a Siopwr y Bryn
Yn wir mor ddefnyddiol a neb y ffordd hyn:
Mae John gyda Ffafret yn werthfawr heb lol
A Dafydd bob amser yn barod a Dol.

Os ydych am fechgyn i dorri eich gwair,
Fe ddon’t ar eu hunion ond dwedyd y gair;
Hwy godant yn fore, a gweithiant yn hwyr,
A’r meysydd a laddant bob blewyn yn llwyr.

Mae’r Ffirm yn ddiamau yn berchen ‘machine’,
Ond ‘leni defnyddiwyd Milwaukee Ffosffin.
‘Roedd merlod ‘rhen Williams yn wir yn rhy wan,
Pe cawsent eu hitcho nid aethant o’r man.

Gan fod cymaint o ffrindiau am gopi o’r gân hon, a chan ei bod yn faith i’w hysgrifennu, roedd y bardd ar gais ei gyfeillion wedi ei hargraffu. Y mae’r gân yn seiliedig ar yr hyn gymerodd le pan wrth y cynhaeaf gwair yn ardal y Ram ym 1925, pryd na chafwyd dim glaw ym mis Mehefin a’r cnydau gwair yn dra ysgafn.

Diolch i Pat Davies ac Eric Williams am y syniad o’i chyhoeddi yn Clonc a diolch i Eryl Jones am ei hail deipio.

Cofia Avril Williams am y bardd a arferai fyw yn Oranmore dafliad carreg o Dafarn y Ram sef Tandderwen heddiw.  “Roedd yn hen lanc ac yn fardd gwlad nodweddiadol.  Yn wir cefais gymorth ganddo i ysgrifennu cerdd ar gyfer cystadleuaeth yn yr ysgol.  Rwy’n cofio amdano wastad wedi gwisgo’n drwsiadus iawn.  Ei frawd oedd prifathro cyntaf Ysgol Ramadeg Llandysul ac roedd ganddo frawd arall yn bensaer.”

Mae’r penillion yn ddiddorol iawn ac yn cyfeirio at nifer o ffermydd a thyddynod bach yr ardal.

Ac yna yr aethant ar ffrwst i Tynrhos,
A Herbert oedd serchog ar ganol y clôs.
Terfynnu a wnaethant o gwmpas tair awr,
A’r tywydd yn altro, – a’r ‘glass’ yn mynd lawr.

‘Rol iddynt gael ‘luncheon’ a llymed o de,
Hwy eilwaith ddychwelsant at barc Lock & Ke;
A lladdwyd yn hwylus nes dyfod i ben,
A’r storm yn ymgasglu nes duo y nen.

Mae’n braf cael rhannu hen drysorau fel hyn.  Wrth chwilio am bethau i’w gwneud yn y cyfnod clo hwn, mae’n rhyfedd beth y down o hyd iddynt wrth glyrio.  Diolch i Bapur Bro Clonc am gyhoeddi’r gân yn gyfan.

Dyma’n wir oedd yr adloniant bron canrif yn ôl.  Dim rhyngrwyd, dim gwefan Clonc360, dim snapchat, dim S4C na Netflix, ond beirdd gwlad fel B T Lewis yn ysgrifennu am ddigwyddiadau’r fro a thrigolion yr ardal yn awchus am ddiddanwch wrth eu darllen.  Diolch byth bod copïau wedi goroesi’r blynyddoedd fel y gallwn ni eu gwerthfawrogi unwaith eto.