Aeth blwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.
Mae Bethan Richards ac Eirlys Davies yn Gyfreithwyr a Chyfarwyddwyr gyda chwmni Cyfreithwyr ADVE ar y Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr iddynt am ateb y cwestiynau.
Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?
Yr her fwyaf heb os oedd y newid o fod yn gweithio yn y swyddfa i bawb yn gweithio yn rhannol o gartref. Dros nos bu’n rhaid buddsoddi mewn technoleg newydd ac addasu ein system o weithio i’n galluogi i barhau i gwrdd ag anghenion ein cleientiaid.
Mae’r cynnydd sylweddol yn y farchnad dai wedi golygu sefydlu patrymau newydd o weithio i gyd-fynd gyda chyfnod prysur wrth weithredu dros brynwyr a gwerthwyr. ’Roedd hyn yn arbennig o heriol yn y misoedd cynnar gan fod cyfreithwyr eraill, asiantau tai, awdurdodau lleol ayyb hefyd yn addasu i’r drefn newydd. Er hynny a thrwy ymdrechion ein staff i gyd a chydweithrediad parod ein cleientiaid, hyderwn i ni fedru cwrdd â’r sialens.
Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?
Am gyfnod o rhyw 7 mis o Mawrth 2020 fe rannwyd y swyddfa yn ddau dîm. ’Roedd un tîm yn gweithio yn y swyddfa a’r llall o gartre am yn ail wythnos. Byddai’n sicrhau bod modd i ni barhau i weithredu pe byddai angen i’r naill dîm neu’r llall hunan-ynysu. Ers mis Medi 2020 ’rydym wedi newid i system rota gyda phob cyfreithiwr yn gweithio o gartre am rai diwrnodau o’r wythnos.
Mae iechyd a lles ein staff yn hollbwysig i ni felly ’rydym wedi gwneud addasiadau o fewn y swyddfa. Sicrheir bod pob un yn medru cadw pellter wrth weithi, gyda phawb â’i swyddfa ei hun. Gosodwyd sgriniau lle bod angen a threfnwyd amseroedd gwahanol i ddechrau a gorffen gwaith.
Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi medru croesawu cleientiaid i’r swyddfa ers dros flwyddyn. Mae’n golled fawr gan ein bod yn rhoi cymaint o bwyslais ar ein gallu i ddarparu gwasanaeth personol. ’Rydym wedi newid i gynnal cyfarfodydd dros y we neu ar y ffôn, ac allan yn yr awyr agored lle bo angen yn y maes parcio. Yn ffodus, mae’r tywydd wedi bod yn garedig ar y cyfan ac mae’r ‘carport’ wedi bod yn werthfawr tu hwnt i’n cysgodi ar adegau!
Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?
Yn bendant ’rydym wedi dod i werthfawrogi hwylusder medru cwrdd â chleientiaid yn y swyddfa i drafod materion wyneb yn wyneb. Er ein bod yn gweld eisiau’r cysylltiad personol yma, ’rydym wedi synnu cymaint mae posib ei wneud dros y ffôn neu’r we. Mae’n cleientiaid wedi bod yn fwy na pharod i addasu gyda ni.
Rhaid dweud ein bod hefyd wedi sylweddoli cymaint ’rydym yn gwerthfawrogi’r ochr gymdeithasol o fod yn y swyddfa a’r dref bob dydd. Mae’n braf gweld peth o fwrlwm Llanbed yn dychwelyd bob yn dipyn.