Cynhaliwyd cystadleuaeth boblogaidd iawn dros benwythnos gŵyl y banc a drefnwyd gan Bwyllgor Neuadd Bentref Llanfair Clydogau. Roedd yn agored i holl drigolion Llanfair a’u plant ac wyrion, ynghyd â ffrindiau a chefnogwyr pentref Llanfair.
Roedd rhaid arddangos bwgan brain rhywle yn ardal Llanfair erbyn 9 o’r gloch y bore ar ddydd Sul 30 Mai.
Roedd y beirniadu yn digwydd fore Sul a lleoliadau bwgan brain yn cael eu rhyddhau er mwyn i’r pentrefwyr ymweld â nhw.
Mae’r bwganod brain i gyd yn dal yn eu lle os hoffai unrhyw un eu gweld nhw. Gellir eu gweld yn: Llwyn, Llanfair Fach, Llwynpiod, Felin, Awelon, Nantymedd, Penlan Goetre, i fyny ar Longwood, y tu allan i neuadd y pentref a gyferbyn â lôn Pentre.
Da iawn i’r holl gystadleuwyr. Dyma sylw a gafwyd ar dudalen facebook Llanfair Clydogau ddoe “Wedi gweld llawer o bobl heddiw yn mwynhau’r awyr iach ac yn edrych ar y bwganod brain. Diolch am drefnu’r digwyddiad cymunedol gwych hwn. Da iawn a diolch i bawb a gymerodd ran.”