Mae’r Cynghorydd Ieuan Davies o Lanybydder wedi cyflawni ei addewid fel Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin i nofio yn y môr i godi arian ar gyfer ei ddwy elusen.
Roedd ef wedi addo cymryd rhan yn Nhrochfa’r Tymor, y digwyddiad nofio glan môr traddodiadol ar draeth Cefn Sidan ar ŵyl San Steffan, ond cafodd y digwyddiad ei ganslo oherwydd cyfyngiadau Covid.
Yn hytrach, mentrodd y Cynghorydd Davies i’r môr ar draeth Pentywyn yn ystod penwythnos oer y Pasg.
Mae’r Cynghorydd Davies yn codi arian ar gyfer dwy elusen sy’n agos at ei galon sef Canser y Prostad ac Eglwys Sant Pedr, Llanybydder.
Yn ogystal â nofio, mae’r Cadeirydd Davies hefyd yn cymryd rhan mewn taith gerdded noddedig a hyd yn hyn, mae wedi cerdded dros 60 milltir.
Dywedodd y Cynghorydd Davies “Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i gynifer o bobl ac mae’n siom fawr i mi nad ydw i wedi gallu ymgymryd â dyletswyddau arferol y Cadeirydd, a chwrdd â chynifer o grwpiau a phreswylwyr Sir Gaerfyrddin â phosibl dros y flwyddyn.”
“Rwy’ mor falch o fod wedi gallu nofio yn y môr sy’n ddyddiad pwysig yn y calendr dinesig,” ychwanegodd.
Gellir gwneud cyfraniadau wrth dalu â charden gredyd/ddebyd gyda Visa, MasterCard, Switch, Solo, Visa Delta drwy ffonio 01267 228686. Soniwch eich bod am wneud taliad i gyfrif Cadeirydd y Cyngor. Gellir hefyd dalu drwy siec, yn daladwy i ‘Cyfrif Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin’, a’i hanfon at: Eira Evans, Pen-swyddog y Gwasanaethau Democrataidd (Cymorth i’r Aelodau a Dinesig), Adran y Prif Weithredwr, Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, SA31 1JP.