? Capeli Shiloh a Soar, Llanbedr Pont Steffan 

Adroddiad am ail agor i gynnal oedfaon yn ogystal â chyfweliad fideo.

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Tro Shiloh oedd cynnal oedfa fore Sul 25ain Gorffennaf yn dilyn cynnal oedfa yn Soar ar Sul cynta’r mis. ‘Roedd cynulleidfa deilwng o’r ddau gapel a chyfeillion o gapeli eraill yn bresennol. Cafwyd oedfa fendithiol gan John Phillips – neges obeithiol ac emynau hyfryd Watcyn Wyn. Traddodwyd gweddi amserol gan Twynog Davies a chafwyd darlleniad pwrpasol gan Rhys Bebb Jones o’r Rhufeiniaid, pennod 5, adnodau 1-11. Arweiniwyd y canu digyfeiliant gan Twynog Davies.

Croesawyd pawb gan Twynog Davies wnaeth hefyd estyn cydymdeimlad gyda’r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid dros y flwyddyn ddiwethaf. Talwyd teyrngedau i’r diweddar Pegi Evans, Margaret Greenstock a Nell Williams. Croesawyd Mair Joyner a Myfanwy Jones (merched Nell Williams) i’r oedfa a diolchwyd iddynt am eu rhodd garedig i Gymorth Cristnogol er cof am eu mam.

Diolchwyd i swyddogion Shiloh am y trefniadau. Cewch hanes yr oedfa a’r un gynhaliwyd yn Soar yn y cyfweliad gyda John Phillips, Twynog Davies a Huw Jenkins. Diolch yn fawr iddynt am sgwrsio gyda Clonc360.