Cartref Gwynfor Evans ym Mhencarreg wedi llosgi’n ulw

Bu criwiau tân Llanbed, Tregaron, Llandysul a Chastell Newydd yn ceisio diffodd y tân ddoe.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llun gan Madz Chucky-Eggs ar facebook.

Roedd tân mawr mewn eiddo ym mhentref Pencarreg brynhawn ddoe lle roedd criwiau tân Llanbed, Tregaron, Llandysul a Chastell Newydd yn bresennol.

Ceuwyd y brif ffordd A485 rhwng Sgwâr Cwmann a Sgwâr Llanybydder er mwyn cynorthwyo’r gwasanaethau brys.  Llosgwyd yr eiddo’n ulw, ac erbyn nos, dim ond pedair wal oedd yn sefyll. Ni anafwyd unrhyw un yn y tân.

Dyma oedd cartref y diweddar Dr Gwynfor Evans a’i wraig Rhiannon yn ystod ugain mlynedd olaf eu bywydau.

Roedd Gwynfor Evans yn un o brif wleidyddion Cymru trwy gydol ail hanner yr ugeinfed ganrif, Llywydd Plaid Cymru o 1945 hyd at 1981, a’r cyntaf i gipio sedd yn San Steffan ar ran Plaid Cymru yn is-etholiad Caerfyrddin ym 1966.  Roedd hefyd yn awdur nifer o gyfrolau hanes a chenedlaetholgar.

Roedd Talar Wen yn fyngalo anghyffredin steil scandinafaidd gyda phedair ystafell wely.  Codwyd y byngalo yn 1984, a’i wneud o fframwaith pren a waliau o flociau.

Yn ystod dyddiau Gwynfor a Rhiannon Evans ym Mhencarreg, arferai delw o ddraig goch sefyll yn amddyffynnol yng ngardd flaen Talar Wen.  Ond yn fwy nodweddiadol na hynny tra’n cerdded neu yrru heibio’r byngalo cyfoes hwn wrth ochr y brif ffordd, roedd gweld Gwynfor Evans yn gweithio yn ffenestr ei stydi yn olygfa gyson.

Bu farw Gwynfor Evans yn yr eiddo hwn ar yr 21ain Ebrill 2005 yn 98 oed a bu farw Rhiannon naw mis yn ddiweddarach.

Ond heddiw, mae teulu ym mhentref Pencarreg heb do uwch eu pennau wedi colli popeth yn y tân a fu mor ddinistriol ddoe gan ddibynnu ar gymdogion caredig i’w cynorthwyo.