Casi Gregson yn cynrychioli Cymru a dilyn ôl traed ei thad

Merch o Lanbed yn chwarae pêl-droed dros dîm dan 16 merched Cymru

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
3A42DCD4-4649-404C-A722

Llongyfarchiadau i Casi Gregson sy’n cynrychioli tîm pêl-droed merched Dan-16 Cymru y penwythnos hwn yn erbyn Gweriniaeth Iweddon.

Mae Casi yn byw yn Llanbed ac yn ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr.  Bu’n chwaraewraig dalentog yn nhîm Llanbed a De Cymru dros y blynyddoedd cyn cael ei dewis i chwarae dros Gymru.

Mae’n hyfforddi’n galed gyda’r garfan bob nos Fercher a nos Wener ym Mhontypridd ac yn chwarae gêm bob Dydd Sul.

Mae’n dechrau’r gêm prynhawn ’ma yng Nghasnewydd.  Felly pob dymuniad da i ti Casi gyda’th yrfa fel chwaraewraig bêl-droed ar lefel genedlaethol.

Deallwn hefyd bod Casi yn dilyn ôl traed ei thad.  24 blynedd yn ôl i’r un mis roedd Lyndon yn chwarae dros dîm dan 15 Cymru hefyd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.  Da iawn wir.