Mae yn bleser cael ysgrifennu pwtyn byr am bob arlunydd sydd yn byw a gweithio yn ein pentref bychan ni sef Llanfair Clydogau.
Fel mae llawer ohonoch yn gwybod rydym yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn neuadd y pentref yn flynyddol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gobeithio y bydd yn bosib i wneud hynny eto eleni ym mis Awst. Byddwn yn rhoi manylion pellach yn Clonc cyn gynted ac y byddwn yn gallu gwneud y trefniadau.
Mae yn bosib gweld enghreifftiau o waith rhai ohonom ar y wefan yma facebook.
Dyma fanylion y trydydd yng nghyfres #CelfLlanfair a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.
Claire Parsons
Mae Claire wedi byw yma ers blynyddoedd bellach (mae yn dweud ei bod wedi aros yma yn hirach na dim un man arall!) ac yn byw gyda ei phartner Dave, ei chathod, cŵn, ieir ac ambell waith, defaid ac ŵyn swci. Y rhain, ynghyd ac arfordir Ceredigion sydd yn rhoi ysbrydoliaeth i’w gwaith creadigol.
Mae’r rhan fwyaf o’i gwaith yn cynnwys printiau leino gwreiddiol ond mae hefyd yn hoffi arbrofi gyda cholograffiau a cherfiadau ‘dry point’.
Anifeiliaid ac adar y mae yn canolbwyntio arnynt fwyaf. Yn ddiweddar mae wedi bod yn arbrofi gyda defnyddiau (media) gwahanol – pen ac inc, ac acrylig ac yn mwynhau’n fawr iawn, yn enwedig yn creu delweddau o ddigwyddiadau sydd wedi bod yn ran o fywyd y pentref dros y blynyddoedd diwethaf.