Coron Llanybydder yn mynd i brifardd â chysylltiad â’r pentref

Ŵyr rheolwr banc Llanybydder yn ennill Coron a wnaed yng Ngweithdy’r Eisteddfod Genedlaethol.

gan Rhiannon Lewis

Mewn seremoni yng Nghanolfan y BBC yng Nghaerdydd heno coronwyd Dyfan Lewis o’r brifddinas yn brifardd Eisteddfod Genedlaethol AmGen am eleni.

Gwnaed y Goron gan Tony Thomas, Swyddog Technegol a chrefftwr yr Eisteddfod a hynny o weithdy’r Eisteddfod yn Llanybydder.

Mae gan Dyfan Lewis gysylltiad cryf â Llanybydder hefyd.  Roedd ei dad-cu Douglas Davies yn reolwr Banc Lloyds Llanybydder am flynyddoedd ac roedd ef a’i wraig Dyddanwy a’r plant yn byw yn Dwylan Llanybydder.

Mab y prifardd Emyr Lewis a’i wraig Angharad yw Dyfan a fagwyd yng Nghraig Cefn Parc.  Tasg ar gyfer y goron oedd cyfansoddi cyfres o gerddi ar y testun ‘Arwahan’ lle roedd 19 wedi cystadlu mewn cystadleuaeth o safon uchel iawn.

Llongyfarchiadau i’r prifardd Dyfan Lewis ar ei gamp ac am ennill coron hardd a ddaw o Lanybydder sef y graig y’i naddwyd ef ohoni.