Creu Cadair a Choron Eisteddfod AmGen o weithdy’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanybydder.

A noddwyd y Gadair gan gwmni J&E Woodworks Ltd, Llanbedr Pont Steffan.

gan Gwenllian Carr

Eleni, a hithau’n Eisteddfod Genedlaethol go wahanol, mae Tony Thomas, Swyddog Technegol a chrefftwr yr Eisteddfod wedi cael her wahanol iawn, – i greu Cadair a Choron Eisteddfod AmGen, a hynny o weithdy’r Eisteddfod yn Llanybydder.

Fel arfer, mae Tony yn gweithio ar brosiectau enfawr fel y llythrennau eiconig sy’n sillafu’r gair ‘Eisteddfod’ neu’r pyrth haearn hardd sydd i’w gweld ar gyrion y Maes.

Nid ar chwarae bach mae creu Cadair a Choron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.  Fe arfer, mae crefftwr neu grefftwraig yn cael misoedd i feddwl am gynllun a bron i flwyddyn wedyn i greu Cadair neu Goron.  Eleni, mae Tony’n gyfrifol am greu dwy brif wobr y Brifwyl, a hynny mewn ychydig wythnosau.  Ond, ‘dyw Tony erioed wedi gwrthod her, ac mae wedi bod wrthi’n brysur yn y gweithdy yn creu cynllun ac yna’n adeiladu prototeip cyn cychwyn ar y gwobrau go iawn.

Mae’n defnyddio pren onnen ar gyfer y Gadair, sy’n cael ei noddi gan gwmni J&E Woodworks Ltd, Llanbedr Pont Steffan.  “Ro’n i am i’r Gadair gael ei chreu allan o bren golau,” meddai.  “Mae’n bren cryf iawn ac yn hyblyg hefyd, ac yn berffaith ar gyfer creu Cadair Eisteddfod.  Ry’n ni wedi bod yn lwcus hefyd i gael y pren yn lleol, ac mae’n braf meddwl bod y Gadair yn cael ei chreu o fewn ychydig filltiroedd i le syrthiodd y coed ychydig flynyddoedd yn ôl.”

Ac mae cynllun y Gadair yn drawiadol iawn hefyd.  “Ges i fy ysbrydoli gan Gerrig yr Orsedd wrth feddwl am y cynllun ar gyfer y Gadair.  Mae llafnau o bren yn codi o amgylch y sedd, yn union fel Cylch yr Orsedd ar Faes yr Eisteddfod.  Ro’n i’n meddwl y byddai hyn yn gweddu ar gyfer Cadair, gan y bydd hi’n cael ei chyflwyno mewn seremoni orseddol, os cawn ni deilyngdod, wrth gwrs.

“Mae elfen arall i’r cynllun hefyd, gyda’r Cerrig hefyd yn cynrychioli llaw, a honno’n cofleidio’r enillydd, wrth iddo fo neu hi gael ei urddo gan yr Archdderwydd, gyda’r syniad o ofalu am ein traddodiadau a’n diwylliant ni’n rhedeg drwy’r cynllun.”

Gan mai Tony sy’n gyfrifol am greu’r Gadair a’r Goron eleni, am y tro cyntaf, mae cysylltiad pendant rhwng y ddwy wobr.  Dywed, “Ro’n i’n teimlo y byddai’n beth braf i’r ddwy wobr berthyn i’w gilydd, gan fod eleni’n Eisteddfod wahanol, a chan fod y ddwy wobr yn cael eu creu gan yr un person.  Yn debyg i’r Gadair, mae’r syniad o Gerrig yr Orsedd i’w weld ar y Goron hefyd, ac eto, mae’r cysyniad o’r llaw yn gafael o amgylch yr enillydd i’w weld yn glir yma.  Mae’r cynllun yn syml ac yn effeithiol, a phopeth yn cael ei wneud â llaw.”

Mahogani yw’r prif bren yn y Goron, gydag elfennau wedi’u creu o dderw Cymreig, ac yn ôl Tony, mae creu’r Goron wedi bod yn waith manwl a gofalus iawn. “Mae’r Goron wedi cael ei chreu gyda llaw, ac mae’n braf weithio cael dychwelyd at y ffordd draddodiadol o weithio, a ninnau’n defnyddio cymaint o beiriannau ar gyfer popeth heddiw.

“Mae’n dipyn o her i greu Coron allan o bren.  Wrth weithio gyda metel, mae rhywun yn gallu’i ail-siapio fe os yw rhywbeth yn mynd o chwith, ond mae’n rhaid i bopeth fod yn iawn y tro cyntaf wrth weithio gyda phren, neu mae’n rhaid dechrau eto.  A does dim sgriwiau na hoelion yn agos at y Gadair na’r Goron.  Mae popeth yn ffitio gyda’i gilydd yn union fel y dylai fod.”

Ac er mai Tony sy’n gyfrifol am y cynllun ac am arwain ar y gwaith o greu’r Gadair a’r Goron, mae ganddo hen gyfaill yn dod i mewn i’r gweithdy i’w helpu.  Mae Nicholas Williams, un arall o ‘Hogia’r Maes’ yn gweithio gyda Tony ar y prosiect, a’r ddau wrthi’n brysur ar hyn o bryd yn cwblhau un o’r prosiectau mwyaf cywrain a manwl iddyn nhw weithio arno fo erioed.