Mae’n byw yn Llanelli ac yn briod gyda thri o blant sy hefyd yn gweithio i’r GIG. Ei rôl gyfredol o fewn y GIG yw fel Cyfarwyddwr Cyllid Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sef y corff sy’n gyfrifol am hyfforddiant ac addysg ar gyfer yr holl staff o fewn GIG Cymru. Mae addysg a helpu pobl i ddatblygu yn bwysig i Eifion ac yn 2011 derbyniodd MBE am ei waith a’i wasanaethau i’r GIG yng Nghymru. Nododd:
“Meithrinodd fy rhieni bwysigrwydd addysg ynom yn blant, gan eu bod yn ei gweld fel ffordd o gyflawni’n potensial mewn bywyd. Rwy’ wedi gweld addysg fel dull o gynnal cynnydd yn fy ngyrfa yn ogystal â thwf personol. Rwy’ wedi astudio ac wedi ennill cymwysterau ar ystod o feysydd oddi wrth Brifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberdeen.
Rwy’n gweithio yn y GIG ers rhyw 40 mlynedd, 27 o’r rhain fel Cyfarwyddwr Cyllid. Rwy’ wedi ymrwymo’n llwyr i werthoedd a nodau’r GIG, sef darparu gofal iechyd cyffredinol i bawb, am ddim yn y man darparu. Y dasg i mi fu cynorthwyo rheolwyr a chlinigwyr i gyrraedd y nod hwnnw wrth sicrhau hefyd ein bod yn aros o fewn yr adnoddau y mae’r Llywodraeth wedi eu darparu ar gyfer y dasg. Mae hybu hyfforddiant ac addysg fel y gall eraill gyflawni eu potensial wedi bod yn rhan bwysig o’m gwaith, ac rwy’ wedi rhoi pwysigrwydd iddo o fewn y timau rwy’ wedi’u harwain.”
Hyblygrwydd, cynnwys a dulliau cyflwyno rhai o’r cyrsiau drwy ddysgu o bell yw’r hyn a ddenodd Eifion tuag at astudio yn y brifysgol. Gwnaeth hanes ac ansawdd y tiwtoriaid a leolir ar gampws Llambed y Brifysgol argraff dda arno hefyd. Fel Cristion, dewisodd ddilyn y cwrs Diwinyddiaeth Gristnogol o’r rhychwant o gyrsiau gradd a gynigiwyd. Parhaodd:
“Mae wedi bod yn heriol, ond mewn ffordd dda. Mae’r cwrs wedi mynd â mi yn bell y tu hwnt i’m sylfaen wybodaeth a’m meysydd diddordeb arferol ac mae deunyddiau’r cwrs a’r gefnogaeth oedd ar gael gan y tiwtoriaid wedi creu argraff arnaf drwy’r cyfan.
Mae ymgymryd â’r cwrs wedi bod yn brofiad ardderchog. Mae wedi bod yn destun trafod da gyda’r plant, sy wedi bod yn ymgymryd â’u cyrsiau addysgol eu hunain, ac maen nhw wedi mwynhau’r topigau yn ein trafodaethau.
Ro’n i wedi dewis traethawd hir a oedd yn golygu ymchwilio ac ystyried ffresgo canoloesol ynghyd ag agwedd ar dechnoleg yn yr un darn – achos doeddwn i ddim yn gallu dewis rhwng y naill neu’r llall fel pwnc unigol! Roedd yr angen i wneud synnwyr o’r rhesymau pam roedd y ddau yn bwysig ac wedi cysylltu â’i gilydd yn her hyd at bron i hanner ffordd drwodd!
Yr hyn oedd yn wych oedd bod fy ngoruchwyliwr wedi mynd ar hyd y daith gyda fi, heb geisio gwneud i mi ddewis llwybr gwahanol na chwtogi ar fy niddordeb yn y ddau, ond yn hytrach, fy helpu i wneud y gwaith a wnaeth y cysylltiadau yn y pen draw ac a ddaeth â chysondeb i’r gwaith. Roedd Dr Angus Slater yn oruchwyliwr ardderchog, yn fy helpu yn ddi-baid i ehangu fy meddwl ac yn tynnu sylw at feysydd pellach i ymchwilio iddynt a’u hystyried.”
Meddai Dr Angus Slater, Darlithydd mewn Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Rhyng-ffydd yn y Drindod Dewi Sant:
“Mae wedi bod yn bleser mawr i ddysgu Eifion a’i oruchwylio drwy gydol ei astudiaethau ac rwy’ mor falch y bydd yn dychwelyd aton ni ym mis Hydref. Mae cynifer o’n myfyrwyr diwinyddiaeth ac astudiaethau crefyddol yn dod o gefndiroedd amrywiol, ac yn dod â storïau mor wahanol, bod pob blwyddyn yn brofiad bywiog a chyffrous. Mae ein rhaglenni wir yn ceisio adeiladu ar hynny, drwy gynnig cyfleoedd i ddilyn y diddordebau penodol a all fod gan ein myfyrwyr – boed hynny yn waith ffresgo canoloesol neu’n rhywbeth arall!”
Wedi mwynhau ei amser yn y Drindod Dewi Sant cymaint, mae Eifion bellach wedi penderfynu dychwelyd a bydd yn ymgymryd â chwrs MRes yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Ychwanegodd:
“Rwy’ wrth fy modd gyda’r canlyniad. Yn fwy nag unrhyw radd addysgol arall mae’n debyg, a bron ar yr un lefel â’m cymhwyster proffesiynol rhyw 35 mlynedd yn ôl!
Rwy’ bellach wedi gwneud cais i wneud gradd MRes ac yn llwyr ddisgwyl i’r profiad da barhau, tra’n cael fy herio yn ogystal i fynd y tu hwnt i’r cyfarwydd, ac o ganlyniad tyfu yn bersonol.
Rwy’n fyfyriwr aeddfed (iawn!) a byddwn yn annog eraill sy naill ai yn agos at, neu wedi, ymddeol, i ystyried gwneud gradd mewn maes sy o ddiddordeb iddynt. Wnes i ddim teimlo unwaith gyda’r brifysgol fy mod yn gwneud rhywbeth na ddylwn fod yn ei wneud nac fy mod yn rhywle nad oeddwn i’n perthyn iddo.
Dyw hi byth yn rhy hwyr, ac mae’r profiad addysg siŵr o fod yn fwy dymunol na phan oeddwn yn fyfyriwr israddedig llawer ifancach!”
Os hoffech ragor o wybodaeth am gyrsiau ôl-raddedig y Brifysgol, ewch, os gwelwch yn dda, i: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/graddau-olraddedig/
Stori gan Arwel Lloyd