Mae Cymorth Cristnogol yn cyrraedd carreg filltir o bwys eleni yn 75 oed ac mae cyfle i bobl ardal Clonc gyfrannu at y dathliadau … a chadw’n fwy ffit yr un pryd.
Ar adeg arferol fe fyddai dathlu’r pen-blwydd yn digwydd gyda gwasanaeth arbennig a digwyddiadau i ddod â phobl ynghyd i gefnogi’r achos. Ond, er nad yw hynny’n bosib eleni, mae’r elusen wedi meddwl am ffordd newydd, ddeniadol i nodi’r wythnos a chofio pam ei bod mor bwysig.
Felly, yn rhan o ymgyrch Cymorth Cristnogol yn genedlaethol, mae’r Pwyllgor yn Llanbed yn cynnal Her 300,000 o Gamau. Mae gwahoddiad i unigolion, capeli, eglwysi a mudiadau ymuno yn y gweithgaredd yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol (10 – 16 Mai 2021). A dyma sut …
- Gallwch gerdded mewn swigen deulu, neu gall unigolion gerdded ar wahân. Er na allwch gerdded gyda’ch gilydd, gallwch weithredu fel grŵp a chrynhoi camau’r grŵp cyfan i greu cyfanswm ar y cyd. Beth bynnag sy’n taro, cyn belled â’i fod yn ddiogel ac yn cyd-fynd â rheolau Covid!
- Chi sy’n penderfynu faint i gerdded a sut i godi arian – gallwch chwilio am noddwyr neu gael pob cerddwr i gyfrannu hyn a hyn.
O ran cael rhyw fesur o hyd a lled yr her, mae 10,000 o gamau tua 5 milltir a 300,000 felly yn 150 milltir!
Peidiwch â becso, does dim rhaid gwneud cymaint â hynny!
Gall pob 1,000 o gamau gael eu cyfrannu at gyfanswm cangen Llanbed a’r cylch. R’yn ni’n anelu at 750,000 i ddathlu’r pen-blwydd 75 – felly mae pob cam yn cyfrif.
Cefndir yr ymgyrch
Yn syth wedi’r Ail Ryfel Byd fe gafodd yr elusen ei sefydlu i helpu ffoaduriaid yng ngwledydd Ewrop. Ymhen ychydig flynyddoed, dechreuwyd yr arfer o gynnal Wythnos Cymorth Cristnogol yn ffocws ar gyfer codi arian at ei gwaith.
Heddi, mae’r angen gymaint ag erioed ac mae’r wythnos eleni yn canolbwyntio ar un o’r peryglon mwya’ i bobl yng Nghymru ac ar draws y byd – newid hinsawdd.
Bydd yr arian nawdd a gaiff ei gasglu yn mynd at ymgyrch ryngwladol Cymorth Cristnogol i ddelio ag effeithiau newid hinsawdd sydd eisoes yn achosi dinistr mawr mewn sawl rhan o’r byd, yn ogystal ag effeithio ar ein tywydd ni yma.
Os am ymuno â’r Her Fawr, neu gael mwy o wybodaeth am ffurflenni nawdd, Just Giving etc., croeso i chi gysylltu â Deborah Angel, Trysorydd (lagomorff@gmail.com / 421939) neu Elaine Davies, Ysgrifennydd (elainepenynant@outlook.com / 480526).
A does dim rhaid i bawb gerdded! Os liciech chi gefnogi Apêl Cymorth Cristnogol eleni, mae croeso i chi anfon sieciau yn daladwy i Cymorth Cristnogol Llanbed a’r Cylch at Deborah Angel, 36 Penbryn, Llanbed, SA48 6EU.
Neu, os hoffech chi godi arian mewn rhyw ffordd arall, mae croeso mawr i chi wneud beth bynnag sy’n ddiogel ac yn addas i chi neu’r grŵp rych chi’n perthyn iddo. Dyma gyfeiriad y dudalen justgiving.