Dechrau Cangen YesCymru yn Llambed 

Grŵp gwleidyddol newydd yn Llambed.

gan Ben Baddeley

Daeth nifer o bobl ynghyd yn ddiweddar i sefydlu cangen YesCymru yn Llambed.

Cwrddodd y grŵp am y tro cyntaf ddydd Sadwrn y 18fed o Fedi. Casglodd aelodau’r gangen newydd ar y ffordd y tu fas i’r Co-op yn Llambed gyda baner fawr ‘Annibyniaeth/Independence’ er mwyn tynnu sylw at achos YesCymru. Roedd y digwyddiad yn rhan o ddiwrnod gweithredu gan ganghenau’r mudiad drwy Gymru.

Mae YesCymru yn fudiad sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei rhedeg. Yes Llambed yw cangen ddiweddaraf y mudiad yng Ngheredigion.

Daeth aelodau o dair cangen arall i’r digwyddiad yn Llambed er mwyn rhoi help llaw i’r grŵp newydd. Roedd aelodau Yes Llambed yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth yma gan ffrindiau o Yes Tregaron, Yes Bro Dinefwr a Yes Dyffryn Aeron.

Denodd y faner fawr dipyn o sylw, gyda nifer o yrrwyr yn canu corn wrth basio. Roedd y faner yn arbennig o boblogaidd gyda beicwyr modur.

Llwyddodd y digwyddiad i ennyn diddordeb siopwyr a cherddwyr hefyd. Roedd nifer heb glywed am y mudiad o’r blaen ond yn gefnogol ar ôl clywed rhagor am amcanion YesCymru.

Be’ nesa’?

Bydd aelodau’r gangen ym marchnad y bobl ar gampws y coleg yn Llambed ddydd Sadwrn, Hydref y 9fed, rhwng deg ac un o’r gloch. Byddan nhw’n rhannu sticeri a gwybodaeth am yr ymgyrch. Mae’r grŵp yn estyn croeso cynnes i unrhywun sydd â diddordeb yn nyfodol Cymru i ddod draw i drafod.

Mae’n dal yn ddyddiau cynnar i’r grŵp yn Llambed ond ‘Deuparth gwaith yw ei ddechrau’!

Os hoffech wybod rhagor, dyma fanylion cyswllt y grŵp:

Ebost: Yesllambed@gmail.com

Trydar: @YesLlambed

Facebook: https://www.facebook.com/Yes-Llambed-251835386741959