Disgybl o Ysgol Bro Pedr yn dod i’r brig mewn cystadleuaeth newid hinsawdd

Fe gurodd Glesni Rees gannoedd o ddisgyblion ysgol eraill yn y gystadleuaeth

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Glesni Rees

Mae Glesni Rees, sy’n ddisgybl blwyddyn 7 yn Ysgol Bro Pedr, wedi ennill cystadleuaeth newid hinsawdd a gafodd ei chynnal gan Brifysgol Aberystwyth.

Roedd y gystadleuaeth yn rhan o Ŵyl Ymchwil gyntaf y Brifysgol, a fu’n trafod heriau newid hinsawdd wrth i arweinwyr byd baratoi i ymgynnull yn uwchgynhadledd COP26 fis nesaf.

Fe wnaeth cannoedd o blant ysgol ym mlynyddoedd 5 i 8 gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac roedd gofyn iddyn nhw lunio poster a gwneud cyflwyniad i gyflwyno syniadau ar sut i daclo newid hinsawdd.

Hefyd yn dod i’r brig oedd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 o Ysgol Plascrug – Emily Tiley, Ella Worthington, Isabelle Butler, ac Ovima Vimal.

Fel gwobr, bydd y pump ohonyn nhw nawr yn cael taith ar gwch ymchwil y Brifysgol, a bydd eu hanes i’w glywed ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru ddydd Llun nesaf (1 Tachwedd).

Llongyfarchiadau

Fe wnaeth Ceris Jones sy’n athro yn Ysgol Bro Pedr, longyfarch yr holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.

“Llongyfarchiadau i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth,” meddai.

“Diolch i’r Brifysgol am greu’r cyfle i ni fel ysgol drafod y materion hollbwysig hyn.”

‘Codi ymwybyddiaeth ymysg ein pobl ifanc’

Fe wnaeth Dr Siân Lloyd-Williams, Cyfarwyddwr Ymchwil Ysgol Addysg y Brifysgol, ddweud bod y “safon yn uchel iawn.”

“Roedd yn amlwg fod y disgyblion wedi cael hwyl wrth ymchwilio i’r pwnc hwn ac roedd llawer o wybodaeth ar gael ar y posteri amrywiol,” meddai.

“Wrth i arweinwyr rhyngwladol ymgynnull ym Mhrydain i drafod gweithredu byd eang, mae’n hynod o bwysig bod pobl ifanc yng nghanol y drafodaeth a’r ystyriaethau.

“Newid hinsawdd yw’r her fwyaf sy’n wynebu’n planed, ac fel Prifysgol rydym wedi ymrwymo i ymgymryd ag ymchwil sy’n helpu i ddatblygu atebion ar gyfer y byd go iawn.

“Rydyn ni’n gobeithio bod y gystadleuaeth hon wedi codi ymwybyddiaeth ymysg ein pobl ifanc yn lleol o’r heriau sy’n ein hwynebu fel planed.”