Cyhoeddodd cwmni Evans Banks Planning ar Linkedin prynhawn ddoe yr enillwyd apêl o sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer ailddatblygu hen Dafarn y Ram Inn yng Nghwmann.
Dywed y datganiad “Mae’r Adeilad Rhestredig o’r 17eg Ganrif wedi bod ar gau ers dros 10 mlynedd, ac roedd angen ei adnewyddu’n helaeth er mwyn dod ag ef yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol. Mae’r cynigion yn ceisio cadw nodweddion hanesyddol yr hen dafarn a chreu 3 anedd preswyl tair ystafell wely.”
Ychwanegodd y cwmni cynllunio o Cross Hands “Gwnaethom ddadlau’n llwyddiannus mewn Gwrandawiad Apêl fod unrhyw gynigion i ailagor fel tafarn yn anhyfyw oherwydd costau annormal gormodol ac agosrwydd at dafarndai cystadleuol yn ardal Llanbed.”
Bu gwrthwynebiad i’r datblygiad hwn yn lleol, ac o ganlyniad gwrthwynebwyd y cynlluniau gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Roedd cwmni Evans Banks Planning yn gweithredu ar ran Brodyr Douglas (Cwmann) Cyf sef perchnogion presennol Tafarn y Ram a chynhaliwyd gwrandawiad apêl gan Yr Arolygiaeth Gynllunio yng Nghaerdydd ar y 26ain Ionawr.
Bwriedir troi llawr waelod Tafarn y Ram yn llety preswyl fel y llofft, yn ogystal â ffurfio dau annedd ychwanegol yn yr estyniad cefn.
Ymhlith yr ymatebion ar wefannau cymdeithasol heddiw cafwyd hyn “Trist iawn gweld y post hwn ar LinkedIn heddiw – mae’n ddarn bach o hanes a fydd ar goll. Cywilydd na ellid ei gadw fel un eiddo a’i ddefnyddio at bwrpas arall os nad tafarn.”