gan
Dylan Lewis
Mae Grŵp Meddygol Bro Pedr wedi cyhoeddi y byddant yn cau drysau meddygfeydd Taliesin Llanbed a Brynmeddyg Llanybydder o yfory ymlaen oherwydd niferoedd uchel o achosion Covid-19 yn lleol.
Gofynnir i unrhyw un â symptomau Covid-19 fel peswch, gwddwg tost a gwres uchel i drefnu prawf PCR cyn cysylltu â’r feddygfa a gwneud apwyntiad i weld y meddyg. Pwysleisir na ddylid dibynnu ar ganlyniad negyddol profion Lateral Flow fel tystiolaeth digonol.
Caniateir mynediad i gleifion i feddygfeydd gydag apwyniadau o flaen llaw yn unig.
Os oes gennych ymholiad cyffredinol, ffoniwch 01570422665 neu drwy eConsult ar wefan Grŵp Meddygol Bro Pedr.