Heno, daw i’r amlwg bod ysgolion y Sir yn mynd i drosglwyddo i ddysgu o bell o ddydd Llun (20.12.21) i leihau cysylltiadau ac yna ceisio lleihau haint COVID yn y gymuned yn yr wythnosau nesaf.
Daw hyn wedi i lythyr wrth Gyngor Sir Ceredigion gael ei anfon at rieni yn gofyn i ddisgyblion beidio â mynychu’r ysgol am dridiau cyntaf wythnos nesaf (20.12.21-22.12.21) heblaw eu bod yn blant i weithwyr allweddol neu’n fregus (bydd hybiau ar gyfer y disgyblion hynny).
Ar ôl i sibrydion ynghylch y posibilrwydd o’r dyfarniad yma ynghyd â phenderfyniad diweddar i gau ysgol gynradd Dyffryn Cledlyn, mae’n wir i ddweud heno na fydd mwyafrif plant ysgolion Ceredigion yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth cyn y flwyddyn newydd.
Medd Cyngor Sir Ceredigion yn y llythyr at rieni mai;
‘Sail y penderfyniad yw’r twf cyflym a sydyn a ddisgwylir yn fuan o’r amrywiolyn Omicron, ynghyd â heriau dyddiol mewn nifer o ysgolion oherwydd absenoldebau staff.’