Wedi llwyddiant Eisteddfod Capel y Groes yn 2020, mae’r ’steddfod ar-lein yn dychwelyd gyda chwpwl o gystadlaethau newydd sbon!
Yn ogystal â’r cystadlaethau canu, llefaru, celf a llên i blant ysgol gynradd, r’yn ni wedi ychwanegu cystadleuaeth neu ddwy ar gyfer pobol ifanc blwyddyn 7-9 a chystadleuaeth dweud jôc i blant ysgol gynradd.
Dyma’r cystadlaethau eleni:
- Canu unrhyw ddarn, i gyfeiliant neu yn ddi-gyfeiliant i gategoriau oedran cynradd
- Llefaru unrhyw ddarn i gategoriau oedran cynradd
- Dweud jôc i gategoriau oedran cynradd
- Celf cyfnod sylfaen: enfys unrhyw gyfrwng; cyfnod allweddol 2: bynting neu boster i ddiolch i weithwyr allweddol; bl. 7-9: poster unrhyw gyfrwng i hysbysebu eich bro
- Llên cyfnod sylfaen: cerdd neu stori ‘Fy ffrind’; cyfnod allweddol 2: cerdd neu stori ‘Y trip’
- Tlws llenyddiaeth i flwyddyn 7-9: cerdd neu stori ar y thema ‘Edrych ymlaen’
Bydd angen i gystadleuwyr anfon fideo ohonyn nhw’n perfformio at Eisteddfod Capel y Groes ar Facebook messenger neu i eisteddfodcapelygroes@outlook.com a’r darnau llenyddiaeth a lluniau o’r gwaith celf i’r un cyfeiriad e-bost. Y dyddiad cau yw Ebrill y 1af 2021.
Bydd pob fideo yn cael ei ddangos ar wefannau cymdeithasol yr Eisteddfod a’r tri buddugol yn cael eu dangos ar sianel YouTube Clonc360. Bydd pob darn celf a llenyddiaeth hefyd yn cael ei dangos ar dudalen Facebook yr Eisteddfod.
Lowri Fron a Carys Mai fydd â’r swydd anodd o feirniadu’r rhan fwyaf o’r cystadlaethau gyda Delor James yn feirniad llên. Bydd tystysgrif arbennig i’r tri sy’n dod i’r brig ymhob categori.
Mae mwy o fanylion am bob cystadleuaeth ar safle Facebook (@Eisteddfod Capel y Groes) a Twitter (@CapelyGroes) yr Eisteddfod.
Mae croeso i bawb gystadlu o ardal Llanbed, Cymru…neu’r byd!
Cofiwch hefyd i nodi dyddiad yr Eisteddfod, sef Ebrill y 7fed, yn eich dyddiadur er mwyn mwynhau’r holl gystadlu ar ein tudalen Facebook.