Yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc mae Melissa Charles-Davies yn rhannu llawer o’i chyfrinachau â’r darllenwyr yn y golofn “Cadwyn y Cyfrinachau”.
Ei harbenigedd yw datrys anghydfodau yn y gwaith ac yn mywyd bob dydd a phetai’n fisged, dywed y byddai’n “Taxi” oherwydd dyna’n union beth ydy hi i’w chariad Bradley!
Y person enwocaf ar ei ffôn symudol yw Dr Nerys Llewelyn Jones, “mae pawb yn nabod Nerys! Y gwyliau gorau a gafodd oedd yn Ibiza gyda’r merched.
Y celwydd diwethaf iddi ddweud ar un llaw oedd “Mai dim fi yfodd jin pinc Mam i gyd” ac ar y llaw arall ei mam yw’r dylanwad mwyaf arni, “mae hi mor gefnogol.”
Disgrifia ei hunan yn ddibynadwy, cyfeillgar a sassi a’i thalent gudd yw gallu gwneud y splits!
Mynnwch gopi o Bapur Bro Clonc er mwyn darllen llawer mwy am yr haden hon.