Ar Ddydd Llun, Gorffennaf 19eg, caewyd y B4337 dros dro er mwyn rhoi pont newydd ger hen laethdy Highmead Dairies. Cwmni contractio A. Williams o Landysul sydd wedi ymgymryd â’r gwaith ar ran y Cyngor Sir ac mae’n debygol y bydd y ffordd ar gau i gerbydau am nifer o wythnosau.
Gofynnwyd i’r Cyngor wneud y gwaith hwn yn dilyn llifogydd Storm Callum yn Hydref 2018 pan achoswyd difrod eithriadol i nifer o dai. Roedd gwaith ymchwil wedi canfod bod y cwlfer yn ddiffygiol ac yn gallu blocio’n hawdd gan achosi’r dŵr i gronni a gorlifo.
Gan fod yr ysgolion yn cau dros yr Haf, gobeithiwyd y byddai llai o draffig a’r gwaith felly yn achosi cyn lleied o darfu â phosib. Ond, mae’r ffaith bod yr heol ar gau am gyhyd yn anghyfleus i nifer a’r dargyfeirio’n golygu milltiroedd ychwanegol o deithio.