Gwobrwyo gohebwyr yn y Glonc Fach

Criw da yn trafod straeon yn Noson Clonc360.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cynhaliwyd Noson “Clonc fach, paned a chacen” yn yr Hedyn Mwstard Llanbed nos Fawrth pan ddaeth criw o ryw ugain ynghyd i drafod straeon ar gyfer gwefan Clonc360.

Arweiniwyd y drafodaeth gan Lowri Jones o Gynllun Bro360 a anogodd bawb i gynnwys digwyddiadau yng Nghalendr Clonc360.  Trafodwyd syniadau am straeon lleol hefyd.

Mwynhaodd pawb baned a chacen a weinwyd gan Yr Hedyn Mwstard.  Yn ail hanner y noson, cefais yr anrhydedd o gyflwyno’r gwobrau canlynol:

Gohebydd Ifanc Clonc360 – Ifan Meredith

Gohebydd Amaeth Clonc360 – Ffion Caryl Evans

Gohebydd Busnes Clonc360 – Rhys Bebb Jones

Gohebydd Chwaraeon Clonc360 – Geraint Thomas

Cyn diwedd y noson, tynnwyd rhifau llwyddiannus Clwb Clonc mis Hydref a chyhoeddodd Mary Davies enwau’r enillwyr a fydd yn ymddangos yn rhifyn Hydref Papur Bro Clonc.