Mae Bethel yn rhan o ofalaeth Eglwysi Annibynnol Bethel Parc-y-rhos, Esgairdawe, Rhydybont, Crugybar a Shiloh Llansawel. Mae’r Eglwys yn rhan o Gyfundeb Ceredigion o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Saif Capel Cynulleidfaol Bethel dafliad carreg o’r Afon Eiddig ar y bryn uwchlaw pentre bach Parc-y-rhos, ond islaw prif hewl A482 yng Nghwmann sy’n arwain o Lanbedr Pont Steffan i Lanwrda yn Sir Gaerfyrddin. Côd post Bethel yw SA48 8EU er mwyn cyrroedd Bethel gan ddefnyddio SatNav.
I gyfarch Bethel Parcyrhos 1840 – 1990
Yn ôl yn y dechreuad yr oedd Gelli Ddewi,
Coedeiddig a Thawelan, cyn bod capel na festri.
Yn nhŷ Tomos Dafis bu cwrdd gweddi misol,
Cyn i’r Ysbryd ei gyffroi yn oedfa wythnosol.
I’r Ysgol Sul yn ysgubor Bwlchnewydd
Fe gyrchai’r saint o’r ffermdai a’r crofftydd.
Nes dod i Lanrhyd ar lan afon Eiddig
I’r bwthyn to-gwellt o furiau pridd a cherrig.
Mewn trai a llanw ar hyd y blynyddoedd
Bu rhywrai a’u traed ar Graig yr Oesoedd.
Heddiw, canmolwn hen gewri’r gorffennol,
A cherddwn ymlaen mewn Ffydd i’r dyfodol.
Os daliwch i hau ar y maes ym Methel
Bydd cenhedlaeth newydd yn casglu’r fedel.
Y Parch. W J Gruffydd