Hanes Cartref Arbennig yn Llanybydder

Cartref Dai a Mandy Davies yw ‘Glantrenfawr’ neu ‘Blaen Tren’ fel y’i gelwid ar un adeg.

gan Gwyneth Davies
Glantrenfawr, Llanybydder

Glantrenfawr, Llanybydder

Thomas a Sarah Jeremy

Thomas a Sarah Jeremy

Cartref Dai a Mandy Davies yw ‘Glantrenfawr’ (neu ‘Blaen Tren’ fel y’i gelwid ar un adeg) Llanybydder. Maen nhw wedi byw yma ers tair blynedd ac yn ôl Mandy, mae e’n gartref hudolus.

Ond, gresyn yn wir na fyddai’r muriau’n gallu siarad oherwydd mae’n siŵr y byddai ganddyn nhw sawl stori ddifyr i’w hadrodd.  Dyma’r hanes a gyhoeddwyd yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc.

Yn ôl cofnodion hanesyddol, mae ‘Glantrenfawr’ yn dyddio nôl i’r pymthegfed ganrif a’r perchennog yr adeg honno oedd gŵr o’r enw Dafydd ap Tomos ap Dafydd. Fe oedd y rhingyll (swyddog y llywodraeth), a oedd yn gyfrifol am gymydau (rhaniadau seciwlar o dir) plwyfi Mabelfyw, Mabudrud a Mallaen. Mae’r plwyfi yma wedi hen ddiflannu erbyn hyn wrth gwrs. Roedd e hefyd yn ddirprwy goedwigwr ym mhlwyfi Glyn Cothi a Phennant (1456-58). Y teulu Lloyd o Flaen Tren a Dr John William, Pennaeth Coleg yr Iesu, Rhydychen oedd ei ddisgynyddion.

Teithiai Guto’r Glyn, un o feirdd yr uchelwyr, o gwmpas y wlad pan oedd Dafydd yn byw ym Mlaen Tren ac yn wir i chi, dywedir iddo gael llety yno droeon. Roedd Guto wrth gwrs yn enwog am ei gerddi a’i awdlau a cheir sôn ei fod wedi ysgrifennu cerddi yn arbennig i Dafydd ap Tomos.

Roedd hel achau o ddiddordeb mawr i Guto. Tra’n lletya gyda Dafydd, gweinwyd medd a gwin iddo ac yntau’n ymfalchȉo yn y ffaith bod Blaen Tren wedi cael ei adeiladu ar dir cyndeidiau Dafydd ac y gellid olrhain yr achau enwog yn ôl i Tewdur a Dinefwr. Daeth Guto a Dafydd yn ffrindiau mawr a gwahoddwyd Guto i Flaen Tren yn rheolaidd, yn enwedig adeg y Nadolig.

Roedd Dafydd yn fardd amatur a doedd dim syndod felly bod Guto’n mwynhau ei gwmni, gwrando arno’n darllen ei gerddi a blasu ei win. Roedd yn ŵr hael iawn a rhoddai anrhegion i Guto’n rheolaidd.

Byddai gwledd yn disgwyl Guto ar aelwyd Blaen Tren bob amser gydag ystod o fwyd megis cigoedd rhost, bara gwyn a diod arbennig a wnaethpwyd o gwrw a mêl. Mewn un cywydd, cyfaddefodd Guto’n ei fod wedi cael digon o’r cwrw yn ei gartref yn y Gogledd Ddwyrain a’i fod yn ysu am win a medd Blaen Tren.

Dywedir bod Lewys Glyn Cothi (1447-89), bardd enwog arall, wedi nodi mai Rhys ap Dafydd ap Tomos, un o ddisgynyddion Grono Goch ac Elystan Glodrudd, adnewyddodd Glantrenfawr. Rhys oedd mab Dafydd wrth gwrs.  Dywedodd Lewys fod y cwrt allanol ‘ mor wyn â lliain’.

Mae’r tŷ heddiw yn dal i arddel golygfa fendigedig o ddolydd Dyffryn Teifi fel ag yr oedd yn nyddiau Lewys.

Arhosodd Lewys droeon ym Mlaen Tren ac yn ystod un ymweliad, dywedir ei fod wedi cael pwl o’r dwymyn gan grynu’n ddi-baid a dioddef poenau difrifol yn ei esgyrn a’i gyhyrau. Gwenllian merch Rhys oedd yn gyfrifol am ei wella, yn ôl y bardd, gan roddi medd sbeislyd iddo fel meddyginiaeth a pharatoi danteithion blasus i’w demtio gan nad oedd chwant bwyd arno. Yn wir, roedd yn argyhoeddedig ei bod wedi ei  achub o’r bedd.

Mewn un cerdd, cyfeiria Lewys at y ‘ddau lys’ – Glan Tren a Glantren Fach ger y ‘Gaer’, a oedd, o bosib yn ail gartref i Rhys. Mewn cerdd arall, mae Lewys yn canmol Rhys am ei ystâd ysblennydd ac am y crychyddion ar y pwll. Mae’r pwll hwnnw yno hyd heddiw.

Roedd yna gysylltiad â’r Mormoniaid Cymreig gyda Glantrenfawr yn yr 1800au gan fod Thomas a Sarah Evans Jeremy a oedd yn byw yno bryd hynny yn aelodau.  Ym 1846 dechreuodd Capten Dan Jones, cenhadwr dros Eglwys Iesu Grist o Saint y Dyddiau Diwethaf (Mormon) bregethu yn Llanybydder.

Cynhaliwyd cyfarfodydd crefyddol ym Mlaen Tren tan Chwefror 1849 pan ymfudasant gyda nifer o dröedigion Normaniaid eraill o ardal Llanybydder i Utah a chodwyd plac gan ddisgynyddion teulu Jeremy o barchus goffadwriaeth amdanynt.  Gellir gweld y plac hwnnw ar un o furiau allanol y tŷ hyd heddiw.

Ar hyd y blynyddoedd, mae nifer o aelodau eglwys y Mormoniaid UDA wedi dod i ymweld â Glantrenfawr ac mae Mandy a Dai Davies wedi cwrdd â rhai ohonynt. Mae olion ‘y glendid a fu’ yng Nglantrenfawr o hyd a’r hanes gwerthfawr, diolch i’r drefn, ar gof a chadw.

Dyma gyfle i chi flasu un o gampweithiau Guto’r Glyn:

Dy fedd nis gadawaf i

Dy win yw fy naden i

Af i Blaen Tren uwch ben byd

Wybr uchel a bair iechyd

Diolch i Dai a Mandy am yr hanes.