Yr heddlu’n enwi dyn a gyhuddwyd o dreisio

Wedi’r chwilio mawr a fu yn Llanbed nos Iau

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys ddoe bod dyn wedi’i gyhuddo yn dilyn presenoldeb cryf yr heddlu yn ardal Llanbed ddydd Iau, Mai 6ed.  Bu chwilio mawr yn yr ardal gan gynnwys cymorth gan hofrennydd.  Fe arestiwyd dyn 45 oed ar fore Gwener.

Cyhuddwyd Saul Henvey o Dregaron, o dreisio ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth yfory dydd Llun, Mai 10fed.

Dywed datganiad yr heddlu “Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth arbenigol i’r dioddefwr.”

Ychwanega’r datganiad “Hoffem unwaith eto ddiolch i’r cyhoedd am eich cymorth gyda’r ymchwiliad hwn.”

Mae’r newydd hwn yn rhyddhad mawr i lawer o bobl leol o ystyried pa mor ofidus oedd trigolion yr ardal o glywed beth ddigwyddodd.