gan
Enfys Hatcher Davies
Daeth 16 tîm i’r helfa drysor ar droed ym mhentref Gorsgoch, nos Sadwrn y 4ydd o Fedi.
Digwyddiad yn rhan o Ŵyl Bro360 oedd y noson hon, mewn ymgyrch i ddenu pobl ynghyd unwaith eto.
Enillwyr yr helfa drysor oedd Menna, Paul a Martha gyda dau dîm yn gydradd ail sef Byron a thîm Carys, Aron a Sara. Da iawn chi.
Bu’n noson hwyliog iawn, gyda’r cystadleuwyr yn joio pryd o fwyd ffein yn nhafarn Cefnhafod ar ôl gorffen. Cafwyd hwyl gyda’r sticeri hefyd, fel y gwelwch o’r lluniau!
Rhai o’r pethau cafodd eu dweud ar y noson…
“Mae’n neis ca’l pethe mlan to.”
“Gobitho gewn ni wneud fwy o hyn nawr.”
“Gobitho na eith blwyddyn to cyn gweld ti!”
Diolch i Eiddwen a Gwawr am greu’r cwestiynau. (gyda pheth help gan Guto a Geraint)