Cawsom bnawn bendigedig ar gyfer ein helfa drysor o amgylch y dref ar bnawn Sadwrn 4ydd o Fedi. Trefnwyd y digwyddiad gan Blaid Cymru Llambed a daeth tua 26 o grwpiau o bob oed i gymryd rhan.
Roedd cryn fwrlwm wrth i’r timau ddarganfod y cliwiau gan fynd i ddau gyfeiriad o’r Cwmins ar hyd y stryd fawr a draw i’r coleg. Diolch i Rhys Bebb a’i wraig Sian am gynllunio helfa oedd yn addas i bawb o bob oed. Roedd rhai mor ifanc â phedair lan at yr 80au!
Ar y diwedd aethom i gyd i’r Hedyn Mwstard am baned, cacen a sgwrs a diolch i Liz a’i thîm am eu darpariaeth.
Roedd pawb yn frwd i glywed y canlyniadau, yn wir roedd 3 grŵp wedi cael marciau llawn felly tynnwyd yr enillwyr allan o het. Enillwyd gan dïm WD, sef Megan, Elin, Dafydd a Dylan, yn ail Llinos a Gwawr, yn drydydd tïm y Granell, sef Avril ac Elin ac yn bedwerydd tïm Tryfan, sef Tryfan, Delyth a Rob.
Diolch i Elin Jones, AS, Rhys Bebb ac Ann Morgan am y gwobrau. Roedd yn braf iawn i gael cwmni ein haelod seneddol Elin Jones a’i mam gyda ni.
Y digwyddiad nesa fydd noson yng nghwmni Brigyn a gair gan ein haelodau seneddol ar Nos Wener, Tachwedd 12fed yn festri Brondeifi. Tocynnau £10 gan Ann Morgan neu Siop y Smotyn Du.