A wyddoch fod dydd Sul 24 Hydref 2021 yn Ddiwrnod Polio’r Byd? Bydd Clwb Rotary Llanbed a Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant Llanbed yn tynnu sylw at y diwrnod arbennig trwy drefnu goleuo Adeilad Dewi Sant ar Gampws Llanbed yn borffor. Paham y lliw porffor? Mae’r rhai sy’n cael eu brechu yn trochi ei bys bach mewn lliw porffor. Dyma’r lliw a ddefnyddir felly i oleuo adeiladau ar draws Cymru a’r byd nos Sul yma i gefnogi’r ymgyrch byd eang i geisio gwaredu’r afiechyd creulon hwn.
Mae polio, neu ‘poliomyelitis’ yn glefyd heintus. Gall achosi parlys a hyd yn oed marwolaeth wrth i’r haint ymosod ar yr ymennydd a madruddyn y cefn. Mae’n haint sy’n lledaenu o berson i berson sy’n effeithio ar bobl ac yn arbennig ar blant o dan 5 oed. Nid oes modd gwella o’r clefyd a’r unig ffordd gellir amddiffyn unrhyw un rhagddo a’i atal rhag lledaenu yw trwy’r cynllun brechu.
Y mae sefydliad Rotary yn fyd eang yn ymgyrchu ers degawdau i godi ymwybyddiaeth am y clefyd ac ariannu cynlluniau brechu rhag polio ar draws y byd. Rotary wnaeth lansio ‘PolioPlus’ yn 1985 ac mae’n aelod sefydlol ers 1988 o’r Fenter Dileu Polio Byd-eang. Yn sgil cefnogaeth a gwaith Rotary a’u partneriaid mae dros 2.5 biliwn o blant wedi derbyn y brechlyn. Mae Clwb Rotary Llanbed yn 2021-22 yn codi arian i gefnogi cynlluniau brechu rhag polio trwy Ymddiriedolaeth Rotary.
Estynnir gwahoddiad i drigolion Llanbed a’r cylch i ymuno gydag aelodau’r Clwb Rotary a Gwilym Dyfri Jones o’r Brifysgol am 7.00 nos Sul 24 Hydref ar y lawnt o flaen Adeilad Dewi Sant. Bydd yn gyfle i ni dynnu sylw ar Ddiwrnod Polio’r Byd a’r ymgyrchoedd sy’n parhau i geisio brechu plant mewn gwledydd fel Affganistan a Phacistan ple mae polio ar gynnydd. Ein gobaith yw y cawn fyd ple mae’r brechlyn yn amddiffyn pob un rhag polio.
Rhys Bebb Jones
Llywydd Clwb Rotary Llanbedr Pont Steffan 2021-22