Mae Melinda Walton, rheolwr siop elusen canser Tenovus sydd ar y Stryd Fawr, Llanbed, yn edrych ymlaen at eich croesawu i’r siop yn ystod mis Hydref. Dyma’r mis i wisgo’r lliw pinc a chodi arian i gefnogi gwaith Tenovus. Dydd Gwener 22 Hydref yw’r diwrnod allweddol i gael eich gweld yn gwisgo pinc a dangos eich cefnogaeth i gleifion canser a’u hanwyliaid.
Mae angen eich cefnogaeth yn fwy nac erioed ar y rhai y mae canser yn effeithio arnynt. Mae sefyllfa’r coronafeirws yn golygu bod pobl yn oedi rhag mynd at eu meddygon i gael archwiliad. Gall olygu bod mwy o bobl â chanser yn ddiarwybod iddynt eu hunain megis canser y fron. Mae Tenovus yn parhau gyda’r gwaith pwysig o gefnogi’r rhai y mae canser yn effeithio arnynt. Mae gwaith Tenovus yn eang iawn ac yn cynnwys cynnig cyngor, cymorth ymarferol a chodi arian i gefnogi gwaith ymchwil canser.
Mae Clwb Rotary Llanbed yn cefnogi Tenovus yn 2021/22. Ymunwch gyda ni yn ystod Mis Codi Ymwybyddiaeth Canser y Fron a dydd Gwener 22 Hydref i gefnogi Siop Tenovus, Llanbed. Cysylltwch gyda Melinda Walton yn y siop (01570 423116) i’w holi sut y gallwch gefnogi Tenovus. Os hoffech wybod mwy am waith Tenovus, ewch i’w gwefan. Cewch wybod mwy am waith cymunedol ac elusennol y Clwb Rotary trwy gysylltu gyda’r Llywydd, Rhys Bebb Jones neu’r Is-lywydd, Mared Rand Jones. Cewch mwy o fanylion am Glwb Rotary Llanbed yma.
Rhys Bebb Jones
Llywydd Clwb Rotary Llanbedr Pont Steffan 2021-22