Aeth blwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.
Nia Jenkins Jones yw perchennog Delwedd Newydd, salwn trin gwallt yn Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Nia am ateb cwestiynau Clonc360.
Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?
Mae wedi bod yn flwyddyn heriol dros ben wrth i ni orfod cau y salwn dros nos heb rybudd a gorfod aros adref. Yn ein diwydiant ’doeddwn ddim yn gallu cynnig unrhyw wasanaeth i’r cwsmeriaid o gartre.
Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?
’Rydym wedi addasu’r salwn wrth roi’r offer perthnasol i fewn i gydymffurfio gyda’r rheolau newydd. Mae Lowri a minnau’n gwisgo’r dillad diogelwch priodol, sef mwgwd, fisor a ffedog. Rhaid i’n cwsmeriaid wneud apwyntiad ymlaen llaw dros y ffôn a gwisgo mwgwd yn y salwn. ’Rydym hefyd yn cael llai o bobl yn y salwn ar yr un pryd er mwyn iddynt deimlo’n ddiogel. Mae wedi bod yn hyfryd i groesawu’r cwsmeriaid yn ôl wedi’r holl amser ansicr yma.
Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?
Dros y flwyddyn ddiwethaf dysgais fod bywyd yn gallu newid dros nos. Mae’n bwysig i werthfawrogi iechyd ac amser gyda’n gilydd fel teulu – ac i gymeryd pob diwrnod fel mae’n dod.
’Rydw i wedi bod yn lwcus iawn i gael cwsmeriaid ffyddlon sydd wedi ein cefnogi dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. ’Rydym hefyd yn hynod o ffodus i fyw mewn ardal glós fel Llanbed lle mae pobl yn gofalu am ei gilydd. Diolch am bob cymorth a chefnogaeth.