Dyma’r 45fed mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo.
Aeth blwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.
Mae Jonathan Williams yn Rheolwr Gosod Eiddo gydag West Wales Lettings, busnes rhentu eiddo ar Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Jonathan am ateb cwestiynau Clonc360.
Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?
Ni chafodd y pandemig gymaint o effaith ar y busnes ag yr oeddwn wedi ei bryderu. ’Roedd yna brinder eiddo i’w rhentu oherwydd nad oedd yn bosibl i bobl symud o un eiddo i’r llall yn ystod y cyfnodau clo. Derbyniwyd llawer o ymholiadau gan bobl yn byw y tu allan i’r ardal yn chwilio am eiddo yn Llanbed a’r cyffiniau. Nid oedd gennym ddigon o eiddo ar gael i’w rhentu i ateb y galw. Credaf fod yr ardal wledig hon ynghyd â’r lefelau isel o cofid yng Ngheredigion yn ei gwneud yn le deniadol iawn i bobl symud iddi o rannau eraill o Brydain.
Bu’n amhosibl i ni fynd â chleientiaid i ymweld ag eiddo yn ystod y cyfnod clo oni bai bod y lle’n wag. Golyga oedi ychwanegol rhwng bod un tenant yn gadael ac un newydd yn symud i fewn i’r eiddo. Bu’n rhaid cau’r siop i’r cyhoedd a gweithio o gartref fel ddigwyddodd i lawer o fusnesau eraill. Golyga gallwn barhau gyda’r busnes a chynnig gwasanaeth ar y ffôn ar y lôn ac ar e-bost. Caniataodd hynny i ni fedru ateb ymholiadau a datrys problemau heb llawer o oedi.
Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?
Ni fu rhaid i ni addasu llawer ar y cyfan i barhau i gynnig a chynnal y busnes. Buom yn lwcus yn hynny o’i gymharu â sectorau busnes eraill. ’Rydym yn gweithio llai o oriau yn y swyddfa ar hyn o bryd gan fod llai o bobl yn galw yn y siop. ’Rydym yn medru parhau gyda chymaint o elfennau o’r busnes a’n gwaith o gartref.
Mae ymweld â thai ag eiddo yn parhau’n eithaf heriol. Rhaid aros nes bod yr eiddo yn wag cyn y medrwn ei ddangos i denant newydd. Mae dal galw uchel am eiddo i’w rhentu ac nid oes digon o lefydd ar gael. Golyga bod unrhyw eiddo ddaw’n wag yn cael ei rhentu o’r newydd yn gyflym iawn.
Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?
’Rydym wedi sylweddoli pa mor boblogaidd yw Llanbed a’r cyffiniau i fyw ynddo. Mae llawer o bobl yn awyddus i symud i fyw yma. Byddai’n braf pe byddai gennym ychwaneg o eiddo ar gael i’w rhentu iddynt i gyd!