42. Kate Barnes, siop Calico Kate – y flwyddyn a fu

Dyma’r 42ain mewn cyfres o gyfweliadau â gweithwyr lleol yn trafod effaith y cyfnod clo

Rhys Bebb Jones
gan Rhys Bebb Jones

Aeth blwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.

Kate Barnes yw perchennog Calico Kate, siop clytwaith, cwiltio a defnydd gwnïo ac edafedd sydd ar y Stryd Fawr, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr iddi am ateb cwestiynau Clonc360.

Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?

Yr her fwyaf oedd ail-drefnu’r siop i gydymffurfio gyda rheolaethau cofid. Rwy’n ffodus fod yna ddau ddrws i’r siop. Llwyddais i dwtio’r ardd er mwyn creu mynedfa newydd drwyddi i’r siop. Bellach mae cwsmeriaid yn dod mewn trwy ddrws yr ardd ac yn mynd allan drwy ddrws y Stryd Fawr.

Mae gen i ddyfyniad ar lechen yn yr ardd “to plant a garden is to believe in tomorrow”. Bu’r ardd fechan a’r geiriau yna o gymorth i mi wrth weithio ar fy mhen fy hun yn ystod y cyfnod clo. Erbyn hyn mae’r cwsmeriaid yn cael cyfle i’w mwynhau wrth eistedd yno i aros eu tro i ddod mewn i’r siop. Dim ond 6 person gaiff fod yn y siop yn ôl y canllawiau cofid.

 

Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?

’Rwyf wedi parhau i weithio ar fy mhen fy hun drwy bob cyfnod clo. Bûm yn ateb y ffôn ac e-byst yn ddyddiol ac yn postio nwyddau i gwsmeriaid. Llwyddais yn fwy diweddar i fedru cynnig gwasanaeth clicio a chasglu pan oedd y rheolau’n caniatáu hynny. ’Roedd cwsmeriaid yn medru casglu’r nwyddau wrth siopa am negeseuon eraill yn Llanbed. Bu hynny o gymorth mawr iddynt hwy ac i minnau hefyd.

’Rwyf wedi gwerthfawrogi’r cymorth a’r gefnogaeth gefais gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae arweiniad gofalus Mark Drakeford i gadw Cymru mor ddiogel â phosibl hefyd wedi gwneud argraff arnaf.

 

Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?

Mae wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i mi yn ariannol, yn feddyliol ac yn gorfforol. ’Rwyf mor ffodus o barhau i fod gyda busnes, un sydd wedi medru helpu eraill dros y flwyddyn a fu. Mae hamddena trwy wnïo, gwneud clytwaith a chwiltio wedi bod o gymorth i nifer, heb sôn am y miloedd o fygydau wnaed gan gymaint o bobl.

Mae wedi bod yn bleser mawr i mi i gael agor y siop i’m cwsmeriaid wedi’r cyfnodau clo – a’u croesawu hwy nôl. Diolch yn fawr iddynt am eu cefnogaeth.