Y lefel uchaf o achosion Coronafeirws ers mis Ionawr

109.2 achos i bob 100,000 yn ardal Llambed.

gan Siwan Richards

Mae’r cynnydd uchaf yn nifer yr achosion yng Ngheredigion ers mis Ionawr i’w gweld ar hyn o bryd. Mae yna bryder y bydd y nifer hwn yn parhau i gynyddu yn ystod y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

Mae’r tabl isod yn dangos y nifer o achosion i bob 100,000 (ffigurau 15 Awst 2021):

Achosion i bob 100,000 ar 15/8/21

  • Ceredigion: 188.5
  • Aberteifi & Aberporth: 247.8
  • Beulah, Troedyraur & Llandysul: 148.8
  • Ceinewydd & Penybryn: 471.6
  • Llanbedr Pont Steffan & Llanfihangel Ystrad: 109.2
  • Aberaeron & Llanrhystud: 169.1
  • Rheidol, Ystwyth & Caron: 86.6
  • De Aberystwyth: 209.2
  • Gogledd Aberystwyth: 169.8
  • Borth & Bontgoch: 174.7

Atgoffir trigolion ac ymwelwyr Ceredigion i wneud y canlynol, hyd yn oes os ydynt wedi cael dau ddôs o’r brechlyn:

  • Golchi eich dwylo a gwisgo masg, yn enwedig mewn mannau prysur, ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau neu leoliadau gofal iechyd a gofal cymdeithasol, lle bo hynny’n ofyniad cyfreithiol.
  • Cadw eich pellter. Er bod y rheol 2m wedi dod i ben, cofiwch fod gan fusnesau’r hawl i gynnal cyfyngiadau tebyg er mwyn helpu i gadw eu staff a’u cwsmeriaid yn ddiogel.
  • Cofio bod cwrdd y tu allan yn fwy diogel na chwrdd y tu mewn.
  • Gadael awyr iach i mewn i leoliadau dan do.
  • Mynd am brawf a hunanynysu, hyd yn oed os oes gennych symptomau ysgafn.
  • Gweithio o adref lle bynnag bo hynny’n bosibl.

Wrth i’r haf derfynu a’r hydref agosáu, bydd tymor y ffliw gyda ni cyn pen dim, sydd yn aml yn cyflwyno pwysau ychwanegol i’n gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid i ni gadw mewn cof sut y gall yr hyn a wnawn effeithio ar ein ffrindiau, ein teulu, ein cymuned a’n gwasanaethau cyhoeddus nawr a nes ymlaen.

Dewch i helpu ni i gadw ein sir yn ddiogel.