Llambed 53 Tregaron 7

Pwynt bonws arall i’r tîm rygbi cartref yn ‘derby’ lleol cyntaf y tymor.

gan Geraint Thomas

Aeth torf fawr o gefnogwyr Clwb Rygbi Llambed adref yn hapus ddydd Sadwrn diwethaf wrth i’r tîm cartref guro’u cymdogion, Tregaron, 53-7. Yn dilyn cyfnod agoriadol y gêm, lle gwastraffodd y tîm cartref nifer o gyfleoedd euraidd, yr ail-reng gweithgar, Rhodri Williams sgoriodd y cais agoriadol. Gwthiodd ei hun drwy amddiffyn dewr Tregaron yn dilyn cic gosb gyflym gan y mewnwr Dion Hughes.

Daeth yr ail gais i’r wythwr Ceri Thomas. Cais i gyffroi’r cefnogwyr oedd hyn, gydag Osian Jones yn rhedeg yn gryf yn dilyn cic gan Dregaron. Roedd Dion Hughes yn rhan o’r gwaith adeiladol unwaith eto, gan basio i Guto Jones a wnaeth drosglwyddo’r bêl yn gyflym i Thomas a gariodd amddiffynwyr ar ei gefn i groesi am gais cofiadwy. Trosodd Osian Jones y cais i wneud y sgôr yn 12-0 i’r tîm cartref.

Yn sydyn ar ôl hyn, fe wnaeth yr asgellwr ifanc, grymus Jac Williams ddynwared Jonah Lomu gan redeg dros 3 o fois Tregaron. Rhoddodd hyn lwybr clir i’r llinell gais, o flaen cefnogwyr swnllyd Tregaron ac Aberaeron, i’r cefnwr Emyr Richards. Cyn yr hanner roedd yna gyfle am un cais ychwanegol, y tro yma i’r asgellwr chwith, Idris Lloyd. Cymerodd ei gyfle yn hawdd yn dilyn pas hir gan y capten am y dydd, Tomos Rhys Jones. Troswyd y cais gan y maswr, Osian Jones, i adael y sgôr yn 24-0 i’r tîm cartref ar yr hanner.

Roedd yr awydd i daflu’r bêl yn llydan yn glir unwaith eto ar ddechrau’r ail hanner. Yn dilyn gwaith safonol gan Richards, Lloyd a Thomas, rhedodd y prop, Morgan Lewis ymlaen i bas hir gan Dion Hughes gan gymryd y llwybr tarw tuag at y llinell gais. Ymestynnodd ei fraich i sicrhau bod y bêl yn cael ei dirio ar y gwyngalch. Daeth cais arall yn fuan wedyn i’r eilydd o gefnwr, Rhys Douglas yn dilyn gwaith da gan y cefnwyr. Trosodd Jones o’r ystlys.

Roedd Llambed nawr yn rhedeg o bobman, gyda’r dorf wrth eu bodd gyda’r rygbi deniadol yma, a daeth 2 gais gwych arall i’r canolwyr Tomos Rhys Jones a Gethin Roberts yn dilyn gwaith adeiladol creadigol gan Douglas a Richards. Gyda’r sgôr yn 46-0 daeth gyfnod o ymosod i’r tîm oddi-cartref. Sgorion nhw gais haeddiannol yn agos i’r pyst gan ddod a bloedd wrth y cefnogwyr o Dregaron.

Serch hynny, y tîm cartref cafodd y gair olaf, gyda’r cais olaf yn dod i Tomos Rhys Jones yn ei gêm gyntaf fel capten. Trosodd Dion Hughes i adael y sgôr terfynol yn 53-7 i Glwb Rygbi Llambed. Maent nawr yn paratoi ar gyfer eu siwrnai fer i herio Aberaeron ar ddydd Sadwrn y 28ain o Awst.

Morgan Lewis, John Heath, Ryan Kelchandra; Rhodri Williams, Guto Jones; Ryan Holmes, James Edwards, Ceri Thomas; Dion Hughes, Osian Jones; Idris Lloyd, Tomos Rhys Jones, Gethin Roberts, Jac Williams, Emyr Richards

Owain Jacob, Aled Bowen, Carwyn Rosser, Matt Small, Rhys Douglas