Her Llanbedr i Lampeter wedi ei chyflawni

Ysgol Bro Pedr yn gorffen yr her o gerdded, rhedeg a beicio 3,500 milltir.

gan Aled Rumble

Mae cymuned Ysgol Bro Pedr wedi llwyddo efo’r her rithiol i gerdded, rhedeg a beicio i Lampeter Pennsylvania sydd 3,500 milltir i ffwrdd.

Er gwaethaf y tywydd oer, cafodd yr her ei chwblhau mewn 10 diwrnod yn unig efo disgyblion, rhieni, staff a’r gymuned ehangach wedi bod yn cymryd rhan. Yn dilyn llwyddiant yr her, fe wnaeth disgyblion Ysgol Lampeter, Pennsylvania ddanfon eu llongyfarchiadau.

Mae rhai disgyblion eisioes wedi bod yn dysgu ac yn gwneud cysylltiad â’r gymuned ac Ysgol Lampeter allan ym Mhennsylvania. Mae’r dref wedi ei henwi gan fudwyr Cymreig a ymgartrefodd yno ym 1819. Rydym wedi bod yn rhannu fideos yn adrodd hanes ein hardaloedd, llythyron rhwng disgyblion ayyb. 

Ai ras o amgylch y byd a fydd nesaf i Ysgol Bro Pedr?