Mae’n flwyddyn ers dechrau’r Cyfnod Clo, ac er mwyn nodi hynny mae Clonc360 yn holi gweithwyr lleol am effaith cyfyngiadau Covid-19 arnynt yn y flwyddyn.
Mae Llion ap Dylan Davies yn Gyfarwyddwr ac Asiant Tai i Morgan & Davies, cwmni gwerthu eiddo ar Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan. Diolch yn fawr Llion am ateb cwestiynau Clonc360.
Beth yw’r heriau mwyaf chi wedi’u hwynebu yn y flwyddyn ddiwethaf?
Mae wedi bod yn flwyddyn ddiddorol iawn i ni fel cwmni. ’Rydym wedi gorfod newid ac addasu ein dulliau gweithio a hynny dros nos. ’Rwy’n credu mai’r her fwyaf oedd gorfod cau ein swyddfeydd i’r cyhoedd am y tro cyntaf mewn 31 o flynyddoedd. ’Roedd angen i ni ddatblygu a newid ein ffyrdd o ddelio gyda’n cwsmeriaid a rhedeg y cwmni. ’Roedd gofalu am iechyd ein staff yn bwysig i ni fel cwmni teuluol.
Ail agorwyd y swyddfa ddiwedd Mehefin gan ddilyn canllawiau iechyd Llywodraeth Cymru. Ers hynny buom yn brysur iawn. Gwelsom y farchnad dai yn cynyddu dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i effeithiau’r pandemig a hefyd y ‘gwyliau’ yn y dreth stamp ar eiddo.
Beth sydd wedi newid eleni a sut ’rydych chi wedi gorfod addasu?
Y newid mwyaf oedd na allem fynd â chwsmeriaid i ymweliad ag eiddo. ’Roedd rhaid meddwl sut allem wneud pethau mewn ffordd gwahanol ac addasu. Dechreuom recordio ymweliadau a chynnal teithiau rhithiol o gwmpas yr eiddo. Buddsoddwyd mewn camerâu ‘3D’ i hwyluso hynny. Dangosodd hyn i ni pa mor gyflym newidiodd y farchnad dai mewn cyfnod byr.
Mae defnyddio technoleg yn rhan allweddol o’r busnes a rhaid dweud fy mod yn mwynhau’r ochr yma o’r gwaith. ’Rydym hefyd yn gwmni sydd wedi buddsoddi yn ein defnydd o’r gwefannau cymdeithasol i farchnata’n heiddo a rhannu’r newyddion pwysig diweddaraf am ein diwydiant.
Beth ydych chi wedi dysgu dros y cyfnod clo?
’Rydym wedi dysgu fel cwmni bod rhaid edrych ymlaen i’r dyfodol a sut allwn barhau i addasu a bod yn flaengar mewn diwydiant mor gystadleuol. ’Rydym wedi gweld technoleg yn newid mor gyflym yn ein ffyrdd o gyfathrebu a hefyd yn ein hymweliadau rhithiol ag eiddo.
’Rydym fel cwmni yn ddiolchgar i’r gymuned leol am yr holl gymorth, cefnogaeth a’u cwsmeriaeth dros y flwyddyn. Os ydych yn ystyried symud tŷ, cofiwch gysylltu gyda ni trwy alwad ffôn, e-bost neu neges Facebook.