O ddydd Mawrth, 01 Mehefin 2021, bydd llyfrgelloedd y Cyngor yn ailagor i alluogi pobl i chwilio am lyfrau, defnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus a chasglu llyfrau.
Cyn mynd i’r llyfrgell, bydd angen i bobl drefnu slot ymlaen llaw. Bydd slotiau o 30 munud ar gael i chwilota, dychwelyd a chasglu llyfrau, ynghyd â slotiau o 45 munud i ddefnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus. Gallwch archebu eich slot trwy ffonio eich llyfrgell leol neu anfon neges e-bost i llyfrgell@ceredigion.gov.uk. Mae rhifau ffôn ac oriau agor ar gael ar wefan y Cyngor.
Atgoffir pobl i barhau yn wyliadwrus a gofalus ac i wisgo masgiau a chadw pellter cymdeithasol o 2 fetr bob amser.
Bydd y gwasanaeth Clicio a Chasglu yn parhau ar gyfer cwsmeriaid nad ydynt am fynd i mewn i’r llyfrgell. Darperir hyn y tu mewn i’r drws blaen trwy apwyntiad yn unig. Bydd y faniau llyfrgell symudol hefyd yn parhau â gwasanaeth dosbarthu yn unig ar gyfer cwsmeriaid bregus neu bobl sy’n gaeth i’r tŷ.
Mae’r sefyllfa yn ddibynnol ar gadw niferoedd o’r coronafeirws yn isel yn y sir, ac efallai y bydd yn rhaid i’r Cyngor addasu’r trefniadau ar fyr-rybudd os bydd yna frigiad lleol o achosion neu gynnydd cyffredinol mewn achosion.
Diolch i bawb am eu hymdrech barhaus ac am eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.