Meddygfa Llanbed ar y trywydd iawn gyda’r rhaglen frechu

Dros fil o gleifion 70 i 74 oed wedi derbyn brechlyn a rhaglen 65 i 69 oed yn dechrau wythnos nesaf.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Llun: @RhiannonTanlan

Cyhoeddodd Meddygfa Llanbed bore ‘ma eu bod ar y trywydd iawn i gwblhau cam 4 y rhaglen frechu erbyn diwedd yr wythnos.

Mae cam 4 yn gleifion 70-74 oed a’r cleifion hynny sy’n hynod fregus yn glinigol (cyfanswm o dros 1,000 o gleifion).

Dywedodd Sian Jones, Rheolwraig Practis “Os ydych chi’n glaf yn y grŵp hwn ac nad ydych wedi cael apwyntiad neu wedi derbyn llythyr gennym i drefnu apwyntiad, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.”

Mae’r feddygfa wedi cael caniatâd y Bwrdd Iechyd i ddechrau brechu pob claf 65-69 oed (cam 5) o ddydd Llun nesaf 15fed Chwefror. Fodd bynnag, gan mai dim ond nifer gyfyngedig iawn o frechlynnau sydd ar gael, bydd y clinigau brechu COVID yn cael eu cyfyngu gan hyn i ddechrau. Cynyddir yr argaeledd clinigau cyn gynted ag y bydd y cyflenwadau’n caniatáu.

Os ydych chi’n glaf, rhwng 75 a 79 oed (cam 3), dylai’r Bwrdd Iechyd fod wedi cysylltu â chi i fynd i ganolfan brechu torfol. Os na roddwyd apwyntiad i chi, ffoniwch 0300 303 8322 neu e-bostiwch COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk. Ni all Feddygfa Llanbed eich cynghori ar hyn.

Ychwanegodd Sian Jones “Mae ein tîm yn gweithio’n galed iawn y tu ôl i’r llenni ar y rhaglen frechu, ond rydym hefyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau meddygol cyffredinol, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni os oes gennych broblem feddygol.”