gan
Dylan Lewis
Yn dilyn oedi gyda chyflenwad brechiadau ffliw, mae Grŵp Meddygol Bro Pedr wedi cyhoeddi rhaglen frechu i bawb dros 65 oed ar gyfer yr wythnos nesaf.
Meddygfa Taliesin Llanbed Dydd Mercher 29ain Medi 12.30 – 4.00yp.
Meddygfa Brynmeddyg Llanybydder Dydd Gwener 1af Hydref 1.00 – 5.00yp.
Meddygfa Taliesin Llanbed Dydd Sadwrn 2il Hydref 9.00yb – 4.00yp.
Gofynnir i gleifion i ffonio 01570422665 ar ôl 10.30yb i drefnu apwyntiad.