Menter Gorllewin Sir Gâr yn dod â Siani Sionc adref

Sioe Nadolig Siani Sionc yng Nghwmann a gweddill newyddion y Fenter Iaith.

Gwawr Williams
gan Gwawr Williams

NEWYDD! Sioeau Nadolig Siani Sionc:

Bydd Siani Sionc yn gwneud dwy sioe Nadolig yn ardal gorllewin Sir Gâr ar y 27ain o Dachwedd, yn ymweld â Neuadd Goffa Llangain am 10:30yb a dychwelyd i’w chymuned a pherfformio yng Nghanolfan Bentref Cwmann am 2:30yp. £2 y plentyn gyda mynediad i oedolion a fabis o dan 12 mis am ddim. Nifer cyfyngedig felly cysylltwch gydag ymholiad@mgsg.cymru i archebu eich lle.

Newyddion Menter Gorllewin Sir Gâr:

O dan yr amgylchiadau presennol, mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn gweithio i ddarparu gweithgareddau a sesiynau i chi allu parhau i gymdeithasu a byw yn Gymraeg yn ddigidol ac wyneb yn wyneb yn unol â chyfarwyddiadau’r llywodraeth parthed cyfyngiadau.

Wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol rydym eisiau clywed eich syniadau chi: https://tinyurl.com/7jaty8dt

Noson Shwmae a Siopa:

Hoffai’r Fenter ddiolch i bawb ymunodd â ni nos Wener y 15fed o Hydref yn Yr Atom wrth i ni ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae yn ein noson Shwmae a Siopa. Os wnaethoch chi ymuno â ni, rydym eisiau clywed eich barn: shorturl.at/dfjAY

Bore Hwyl Shwmae Sumae:

Diolch i bawb ymunodd â ni ar ddydd Sadwrn y 16eg o Hydref yn Festri Eglwys Penboyr wrth i ni ddathlu Diwrnod Shwmae Sumae yn ein Bore hwyl i’r teulu. Cawsom fore o greu crefft, canu, stori a chwarae gemau ac edrychwn ymlaen at y bore hwyl nesaf!

Adweitheg Babi/Plentyn:

Am y tro cyntaf erioed, mae’r Fenter yn cynnig dosbarthiadau Adweitheg Babi/Plentyn. Mae’r gyfres o bedair wythnos yng ngofal Meleri Brown o Hafan Holistaidd yn cael eu cynnal yn Neuadd Gymunedol Ysgol Peniel. Mae’r gyfres hon yn llawn ond y bwriad yw cynnal cyfres arall yn y flwyddyn newydd. Os oes diddordeb gyda chi i fynychu’r sesiynau, cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

Gemau Buarth:

Mae’r swyddogion datblygu Alma, Ceris a Gwyneth wedi bod yn mynd o amgylch ysgolion yr ardal yn cynnig sesiynau gemau buarth.  Mae’r dair wedi bod yn ymweld â’u hysgolion yn cynnwys Ysgol Llanpumsaint, Cynwyl Elfed, Brynsaron, Bro Brynach, Llansteffan, Bancyfelin, Hafodwenog, Y Dderwen, Peniel, Cae’r Felin a Llangynnwr. Mae’r sesiynau yma’n gyfle i chwarae gemau buarth traddodiadol ac yn gyfle i ddefnyddio geirfa Cymraeg tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Edrychwn ymlaen at ymweld ag ysgolion arall yr ardal dros yr wythnosau nesaf.

Arweinwyr y Dyfodol:

Ym mis Medi, cyflwynodd Menter Gorllewin Sir Gâr gwrs ‘Arweinwyr y Dyfodol’ ac mae criw ifanc o wirfoddolwyr wedi dod at ei gilydd i ddilyn y cwrs. Mae’r cwrs yn cynnwys hyfforddiant a fydd yn arwain at gymhwyster Lefel 2. Bydd y criw brwd yma’n cael cyfle i wirfoddoli yn eu cymunedau a datblygu sgiliau arwain ynghyd â dysgu am farchnata a’r gymuned ddwy-ieithog. Bydd yr holl brofiadau yma’n ychwanegiad gwerthfawr i’w CV ac i’w datblygiad a’u hyder. Mae’r criw wedi cwrdd yn rhithiol ac wyneb yn wyneb er mwyn dechrau ar y sesiynau hyfforddi. Diolch i Catrin Llwyd ac Adran Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir Gâr am eu rhan yn y prosiect hwn ac i Gwirfoddoli Cymru am ei ariannu.

Taith Fygi:

Rydym yn ail-gychwyn ar ein sesiynau teithiau bygi poblogaidd yn y dair ardal, sef Castell Newydd Emlyn ar ddydd Mawrth yr 2il, 16eg a 30ain o Dachwedd, Hendygwyn-ar-Daf ar ddydd Mercher y 3ydd a 17eg o Dachwedd a 1af o Ragfyr, ac yng Nghaerfyrddin ar ddydd Gwener y 5ed a 19eg o Dachwedd ar 3ydd o Ragfyr. Mae’r teithiau yn ymgynnull am 10:15yb ac yn cychwyn am 10:30yb ym mhob ardal. Ymunwch â ni am gyfle i sgwrsio, gwneud ychydig o ymarfer corff ac am wâc hamddenol. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda ymholiad@mgsg.cymru i gofrestru.

Sesiynau stori:

Rydym yn cychwyn sesiynau stori mewn tair ardal sef Caerfyrddin ar ddydd Llun yng Nghanolfan Chwarae Sgiliau ar yr 8fed a 22ain o Dachwedd a 6ed o Ragfyr, ym Mhont Tyweli ar ddydd Mawrth yn y Pwerdy ar y 9fed a 23ain o Dachwedd a 7fed o Ragfyr, c yn San Clêr ar ddydd Mercher yn Y Gât ar y 10fed a 24ain o Dachwedd a’r 8fed o Ragfyr. Bydd y sesiynau yn cychwyn am 10:30yb ym mhob lleoliad. Ymunwch â ni mewn sesiwn stori ac ychydig o ganu. Mae’n angenrheidiol i bawb gofrestru o flaen llaw. Cysylltwch gyda ymholiad@mgsg.cymru i gofrestru.

Ffitrwydd a Siapio:

Ar ôl cyfres llwyddiannus o Ffitrwydd a Siapio gyda Siân Spencer ym mis Medi, rydym yn trefnu ail-gyfres ym mis Tachwedd yn Neuadd yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn yn cychwyn ar nos Wener y 12fed o Dachwedd o 5:30-6:30yp. £20 am 4 wythnos. Oherwydd niferoedd cyfyngedig bydd angen cofrestru o flaen llaw gyda nia@mgsg.cymru.

Coffi a Chlonc:

Mae’r sesiynau yma sydd wedi cael eu cynnal ers cychwyn y cyfnod clo yn parhau. Dyma gyfle i ddod ynghyd i sgwrsio a chymdeithasu dros baned bob bore dydd Iau am 10.30yb ar Zoom. Mae’r weithgaredd yma yn addas ar gyfer dysgwyr a siaradwyr rhugl. I dderbyn y linc cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.

Clybiau Darllen:

Mae Menter Gorllewin Sir Gâr yn trefnu dau glwb darllen sy’n cwrdd unwaith y mis ar Zoom. Mae clwb darllen i oedolion yn cwrdd ar yr ail nos Fawrth bob mis am 7yh a chlwb darllen i ddysgwyr yn cwrdd ar y trydydd nos Fawrth pob mis am 7yh. Dyma gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu a thrafod nofelau cyfoes. Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.

NEWYDD! Helfa Drysor Nadolig:

Mae’r Fenter a’r Atom yn trefnu rhywbeth ychydig yn wahanol dros yr ŵyl eleni.  Byddwn yn creu Helfa Drysor Nadoligaidd ar hyd Stryd y Brenin, Caerfyrddin yn ystod yr wythnosau yn arwain at y Nadolig. Cadwch lygaid ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth gyffrous.

Diwrnod y Ceirw a Chwtsh y Corachod:

Mae’r Fenter yn cydweithio gyda Chyngor Tref Caerfyrddin a phartneriaid y cyngor tref eleni eto i gynnal Diwrnod y Ceirw ar yr 20fed o Dachwedd. Yn ogystal byddwn yn cynnal ‘Cwtsh y Corachod’ mewn safleoedd ar draws y dref er mwyn i deuluoedd yr ardal fanteisio ar gyfleoedd i wneud crefft Nadoliaidd amrywiol a hwyliog. Cadwch lygaid ar ein tudalennau cyfrynagu cymdeithasol am fwy o wybodaeth.

NEWYDD! Gweithdy Creu Torch Nadolig:

Edrychwn ymlaen at noson ar Zoom eleni eto gyda Wendy Blodau Blodwen ar y 3ydd o Ragfyr am 7yh pan fyddwn yn creu torch Nadoligadd. £35 y pen yw cost y sesiwn a bydd angen cysylltu i gofrestru erbyn y 25ain o Dachwedd er mwyn debryn eich pecyn o flaen llaw. Cysylltwch gydag alma@mgsg.cymru i gofrestru.

NEWYDD! Noson Gyd-goginio Nadolig:

Ymunwch â ni am noson gyd-goginio Nadoligaidd ar Zoom gyda Lloyd Henry ar yr 8fed o Ragfyr am 7yh. I gofrestru, cysylltwch gyda ceris@mgsg.cymru.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Gyda’r cyfyngiadau yn newid o hyd, mae gwaith y fenter yn newid gydag amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal ar-lein. Am y diweddaraf, ewch i’n cyfryngau cymdeithasol:

Facebook – Menter Gorllewin Sir Gar

Trydar – @MenterGSG

Instagram – @MenterGSG

E-bost – ceris@mgsg.cymru  neu am fwy o wybodaeth ar sut i gyrraedd y platfformau yma cysylltwch gyda Ceris ar y ffôn: 07939 962042.