Myfyrwraig aeddfed a fu’n astudio yn Llambed newydd raddio â gradd dosbarth cyntaf

Astudio Athroniaeth ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant a graddio yn 60 oed.

gan Lowri Thomas

Mae myfyrwraig aeddfed sydd wedi bod yn astudio am radd BA mewn Athroniaeth yn Llambed newydd raddio â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 60 mlwydd oed.

Mae Wendie Kosek wedi graddio’n ddiweddar o Lambed â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Athroniaeth. Ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Wendie’n byw yn Rhaeadr ac yn gweithio fel therapydd ymarferol, ond wedi iddi ddechrau dioddef poen a chael problemau ecsema, penderfynodd na allai barhau â’i gwaith. Cysylltodd â Gyrfa Cymru i weld pa bosibiliadau eraill oedd yn agored iddi, a chynigiwyd y gallai fynd yn ôl i astudio.

Awgrymwyd wrth Wendie y gallai ddysgu rhagor am fywyd prifysgol trwy brosiect Gateway – a roddodd flas arbennig iddi ar yr holl bynciau gan ei helpu i benderfynu ar yr hyn yr hoffai ei wneud, a’r hyn sydd o fewn ei gallu i’w wneud.

Meddai Wendie: “Doedd gen i ddim diddordeb o gwbl mewn technoleg, ac roedd y syniad o eistedd o flaen cyfrifiadur yn rhywbeth estron i mi.”

Ar ôl cofrestru gyda phrosiect Gateway, cafodd Wendie gymorth gan nifer o bobl yn y Brifysgol gan gynnwys Sgiliau Astudio. Er nad yw’n hollol gysurus  yn defnyddio technoleg fodern o ddydd i ddydd, mae wedi datblygu mewn hyder wrth ddefnyddio rhaglenni gwahanol megis Teams i gyfathrebu â phobl eraill.

Tra roedd Wendie ar y campws cyfarfu â’r darlithydd Tristan Nash, a ysgogodd ei diddordeb a’i chariad at Athroniaeth a phenderfynodd astudio’r pwnc fel gradd. “Teimlwn fod y darlithwyr mor gefnogol. Roeddwn i’n mwynhau mynd i’r llyfrgell a bod yn y math hwnnw o awyrgylch, a’r cyfleoedd byrfyfyr i gwrdd â phobl a chael sgyrsiau, a oedd mor estron o gymharu â’m bywyd o’r blaen. Roeddwn i’n hoffi’r ysgogiad deallusol a godai’n naturiol o’r cyfarfodydd.”

“O wybod holl amrywiaeth y pynciau a ddewisais … rwy ond wedi crafu’r wyneb trwy wneud gradd. Beth oeddwn i eisiau oedd rhywbeth i’m difyrru i mewn i’m henaint, fel y byddai gennyf ddiddordeb yr oeddwn yn angerddol amdano.”

Ar y pryd roedd plant Wendie wedi mynd i’r Brifysgol a chamu i fyd gwaith, ac mae’n cyfaddef ei bod yn teimlo rhyw wacter yn ei bywyd. Roedd bod yng nghwmni pobl iau yn beth braf i Wendie a theimlai ei fod yn ei helpu’n emosiynol i fod ar yr un lefel â’i phlant. Mae Wendie hefyd yn meddwl ei bod wedi gallu rhoi cefnogaeth emosiynol i fyfyrwyr iau oedd yn cael trafferthion.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Wendie wedi gweld ei hun yn datblygu mewn nifer o ffyrdd, yn enwedig yn academaidd. “Doeddwn i byth wedi meddwl y byddwn i’n gallu cwblhau traethawd hir 10,000 o eiriau  … dim ar unrhyw gyfrif! Mae’r ffaith fy mod i wedi cyflawni hynny … mae’n gwbl ryfeddol! Rwy’n teimlo’n fwy cyflawn fel person oherwydd roedd fy mywyd yn cael ei yrru gan emosiwn i raddau helaeth cyn hynny, gan fod y gwaith a wnawn yn y gorffennol yn helpu pobl i ddatblygu a gwella’n emosiynol yn ogystal ag yn gorfforol. Roedd hyn yn rhoi mwy o gydbwysedd meddyliol deallusol i mi ar sut yr edrychwn ar bethau.”

Fel myfyrwraig aeddfed, mae Wendie’n annog eraill i ddilyn ôl ei throed ac i ddilyn eu breuddwyd: “Peidiwch â phoeni … fe gyrhaeddwch chi’r nod, fe ddewch chi drwyddi … dim ond i chi gymryd un cam ar y tro. Os aiff pethau’n ormod, mae cymaint o help ar gael ar eich cyfer – y sgiliau astudio, yr adran dechnoleg, dim ond gofyn sydd eisiau!”Mae’r byd yn ymagor o flaen Wendie nawr ar ôl graddio. Mae’n ystyried parhau i astudio trwy ddilyn gradd Meistr yn y Drindod Dewi Sant.

Mae’r Brifysgol yn falch iawn o Wendy. Dywedodd y darlithydd Dr Tristan Nash: “Mae Wendie wedi datblygu gwir gariad tuag at Athroniaeth, ac mae wedi gweithio’n galed er mwyn medru cyflawni canlyniad gradd arbennig. Rydym yn edrych ymlaen at ei chroesawi yn ôl fel myfyrwraig ôl-radd.”